A85479:728
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Dyledswydd arall sy in perthyn i Weision yw, Diwydrwydd in dwyn gwaith a gorchwyl eu Meistreid i ben, heb ddim godechial, neu feddwl am eu hesmwythdra a'u pleser eu hunain; eithr megis ac y mae eu cryfder hwy a'u hamser in eiddo eu Meistreid, felly y dylent hwy osod allan eu cryfder a gwneuthur defnydd o'u holl amser in-gwasanaeth eu Meistred; eu holl amser, meddaf, oddieithr rhyw gyfran o hono o ran eu dirgel ddefosionau, in enwedigol eu Borevol a'u Prydnawnol Weddiau at Dduw; canys rhaid yw i Weision edrych am waith eu Meistr nefol, in gystal ac am waith eu Meistr daiarol, a gwneuthur cymmaint cydwybod o gyflawni eu dyledswydd iddo ef, ac iw Meistr in ôl y cnawd; canys mewn gwirionedd, yr Arglwydd yw 'r Meistr goreu, yr ⟨p. 167⟩hwn sydd in rhoddi y cyflogau goreu, ar gwobrwyon helaethaf.
II. Dyledswydd arall sy yn perthyn i Weision yw, Diwydrwydd yn dwyn gwaith a gorchwyl eu Meistreid i ben, heb ddim godechial, neu feddwl am eu hesmwythdra a'u pleser eu hunain; eithr megis ac y mae eu cryfder hwy a'u hamser yn eiddo eu Meistreid, felly y dylent hwy osod allan eu cryfder a gwneuthur defnydd o'u holl amser yn-gwasanaeth eu Meistred; eu holl amser, meddaf, oddieithr rhyw gyfran o hono o ran eu dirgel ddefosionau, yn enwedigol eu Boreuol a'u Prydnawnol Weddiau at Dduw; canys rhaid yw i Weision edrych am waith eu Meistr nefol, yn gystal ac am waith eu Meistr daiarol, a gwneuthur cymmaint cydwybod o gyflawni eu dyledswydd iddo ef, ac iw Meistr yn ôl y cnawd; canys mewn gwirionedd, yr Arglwydd yw 'r Meistr goreu, yr ⟨p. 167⟩hwn sydd yn rhoddi y cyflogau goreu, ar gwobrwyon helaethaf.
III. Dyledswydd arall yw Ffyddlondeb. Mae in rhaid i Weision ddangos pob ffyddlondeb iw Meistred, fell y mae'r Apostol in adrodd▪ Tit. 2. 10. Yr ymddiried hwnnw a roddir mewn Gweifion, ar cyfrif a ofynnir ganddynt sydd in gofyn ffyddlondeb. Onid côf gennych beth a ddywedodd yr Arglwydd wrth ei Oruchwiliwr, Dyro gyfrif o'th oruchwiliaeth?