A85479:730
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Mewn geiriau, heb lefasu escusodi un weithred anarddelus drwy ddywedyd celwydd, yr hyn yw chwanegu pechod at bechod; ystyried pob Gweision celwyddog y farnedigaeth ofnadwy a wnaethpwyd ar Gehezi, yr hwn pan ofynnodd ei feistr iddo pale y buasei, in ebrwydd efe a'i hattebodd ef â chelwydd, gan ddywedyd, Nid aeth dy wâs nac ymma na thraw; ar yr hyn yr aeth ef allan o'i ŵydd ef, in wahanglwyfus cyn wined ar eira, 2 Burn. 5. 25, 27.
1. Mewn geiriau, heb lefasu escusodi un weithred anarddelus drwy ddywedyd celwydd, yr hyn yw chwanegu pechod at bechod; ystyried pob Gweision celwyddog y farnedigaeth ofnadwy a wnaethpwyd ar Gehezi, yr hwn pan ofynnodd ei feistr iddo pa le y buasei, yn ebrwydd efe a'i hattebodd ef â chelwydd, gan ddywedyd, Nid aeth dy wâs nac ymma na thraw; ar yr hyn yr aeth ef allan o'i ŵydd ef, yn wahanglwyfus cyn wynned ar eira, 2 Bren. 5. 25, 27.
2. Mewn gweithredoedd, a hynny amryw ffyrdd,
1. Heb fod in cyfrannu da eu Meistred in ôl eu hewyllys eu hunain, nail ai iddynt eu hunain, drwy gymmeryd mwy nag a ganiadheir iddynt, neu i eraill, drwy roddi ymmaith un rhan o honynt. Mae bagad o Weision in tybied y gallant hwy in gyfreithlon roddi bwydydd, neu ryw bethau eraill o'r eiddo eu Meistreid i'r tlodion; eithr er gallu o honynt ddwyn ar dealt iw Meistred neu eu Meistresau fôd y cyfryw bethau in y tŷ ar sydd in gymmwys iw rhoddi, a hefyd Pwy yw y sawl sydd gymmwys i dderbyn y cyfryw elusenau; er hynny nid oes ganddynt ddim awdurdod o honynt eu hunain i roddi dim o eiddo eu Meistred; ac nid yw lliw o Gariad escus da in y bid tros Ladrad.
1. Heb fod yn cyfrannu da eu Meistred yn ôl eu hewyllys eu hunain, naill ai iddynt eu hunain, drwy gymmeryd mwy nag a ganiadheir iddynt, neu i eraill, drwy roddi ymmaith un rhan o honynt. Mae bagad o Weision yn tybied y gallant hwy yn gyfreithlon roddi bwydydd, neu ryw bethau eraill o'r eiddo eu Meistreid i'r tlodion; eithr er gallu o honynt ddwyn ar ddeallt iw Meistred neu eu Meistresau fôd y cyfryw bethau yn y tŷ ar sydd yn gymmwys iw rhoddi, a hefyd Pwy yw y sawl sydd gymmwys i dderbyn y cyfryw elusenau; er hynny nid oes ganddynt ddim awdurdod o honynt eu hunain i roddi dim o eiddo eu Meistred; ac nid yw lliw o Gariad escus da yn y byd tros Ladrad.