A85479:731
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Mewn gweithredoedd, a hynny amryw ffyrdd,
1. Heb fod in cyfrannu da eu Meistred in ôl eu hewyllys eu hunain, nail ai iddynt eu hunain, drwy gymmeryd mwy nag a ganiadheir iddynt, neu i eraill, drwy roddi ymmaith un rhan o honynt. Mae bagad o Weision in tybied y gallant hwy in gyfreithlon roddi bwydydd, neu ryw bethau eraill o'r eiddo eu Meistreid i'r tlodion; eithr er gallu o honynt ddwyn ar dealt iw Meistred neu eu Meistresau fôd y cyfryw bethau in y tŷ ar sydd in gymmwys iw rhoddi, a hefyd Pwy yw y sawl sydd gymmwys i dderbyn y cyfryw elusenau; er hynny nid oes ganddynt ddim awdurdod o honynt eu hunain i roddi dim o eiddo eu Meistred; ac nid yw lliw o Gariad escus da in y bid tros Ladrad.
1. Heb fod yn cyfrannu da eu Meistred yn ôl eu hewyllys eu hunain, naill ai iddynt eu hunain, drwy gymmeryd mwy nag a ganiadheir iddynt, neu i eraill, drwy roddi ymmaith un rhan o honynt. Mae bagad o Weision yn tybied y gallant hwy yn gyfreithlon roddi bwydydd, neu ryw bethau eraill o'r eiddo eu Meistreid i'r tlodion; eithr er gallu o honynt ddwyn ar ddeallt iw Meistred neu eu Meistresau fôd y cyfryw bethau yn y tŷ ar sydd yn gymmwys iw rhoddi, a hefyd Pwy yw y sawl sydd gymmwys i dderbyn y cyfryw elusenau; er hynny nid oes ganddynt ddim awdurdod o honynt eu hunain i roddi dim o eiddo eu Meistred; ac nid yw lliw o Gariad escus da yn y byd tros Ladrad.
2. Heb fôd in dirgel ysgyflio neu chwiwo a darnguddio dim o dda eu Meistred iw rhaid neilltuol eu hunain, yr hyn y mae 'r Apostol in eglur in ei gondemnio ⟨p. 168⟩mewn gweision, Tit. 2. 10. Gwybydded pob gweision yspeilgar, fod llyfr in lawn Melltithion a Phláau in erbyn pob un a ledratto, neu a dingo, yr hwn sydd Lyfr ehelaeth, a'i hŷd in ugain cufydd, a'i lêd in ddeg cufydd, ac er hynny in lawn Melltithion y rhai a ddevant in brysur arnynt hwy, megis ac y llefara'r Prophwyd Zachariah, Pen. 5. 2, 3, 4.