A85479:91
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
V. Ymddiddanion segur ac offer heb dueddu at ddim daioni, ydynt fâth arall o ymadroddion llygredig. Mat. 12. 36. Ein Hachubwr a ddywaid, Mai am bôb gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif in nydd y farn; nid in unic am ymadroddion bryntion, afian, ac anniwair, eithr hefyd am eiriau segur, je am bôb gair segur. Ac am hynny mor fawr y mae 'n perthyn i ni fôd in wiliadwrus arnom ein hunain, megis in erbyn pôb ymadroddion bryntion ac aflan, felly hefyd in erbyn pôb geiriau segur?
V. Ymddiddanion segur ac ofer heb dueddu at ddim daioni, ydynt fâth arall o ymadroddion llygredig. Mat. 12. 36. Ein Hachubwr a ddywaid, Mai am bôb gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn; nid yn unic am ymadroddion bryntion, afian, ac anniwair, eithr hefyd am eiriau segur, ie am bôb gair segur. Ac am hynny mor fawr y mae 'n perthyn i ni fôd yn wiliadwrus arnom ein hunain, megis yn erbyn pôb ymadroddion bryntion ac aflan, felly hefyd yn erbyn pôb geiriau segur?
Yr ail Hyfforddiad ynghylch ein geiriau ydyw hyn,
II. Ymarferwch eich hunain i gŷd-ymchwedleva in sanctaidd, ac i ymddiddan in ddaionus. Nid digon yw gochelyd ymadroddion llygredig, oddieithr i chwi ymarferu ag ymddiddanion daionus; canys ymadrodd daionus a grasol yw'r hwn sy in canmol calon dda ddilwgwr, fall y mae ei ffrwyth dayn camol y pren da. Yr amser gan hynny ac y mae eraill in ei dreulio mewn ymddiddanion offer ac ysgafn, y ddylai Gristianogion ei dreulio in y cyfryw ymddiddan, ac a fyddo da i adeiladu in fuddiol, fell y paro râs ir gwrandawŷr, Eph. 4. 29.