A85479:95
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
IV. Na fyddwch afradlon in eich geiriau, eithr in gynnil in eich ymadrodd, Jac. 1. 19. Bydded pôb dŷn escud i wrando, ⟨p. 20⟩diog i lefaru. Yr ydym ni in fynychach in tristháu am ddywedyd nag am dewy. Na ddywaid wrth nêb yr hyn y fyddei er neweid i ti pe'i cyhoeddit; canys yr hwn y sydd in awr in friend i ti, a ddichon bôd in elyn i ti ar ôl hyn. In enwedigol na ddatcuddia ûn dirgelwch ir Dŷn hwnnw, ac a wyddost ti sydd in caru eraill in fwy nâ thydi dy hun, canys ni ddichon efe gelu dim oddiwrth y rheini. Na ddywaid ti wrth néb yr hyn ni finite ti ei ddywedyd wrth eraill; canys oni eli di dy hun, pa fôdd y galli di dybied y dichon arall gelu y peth a berthyno i ti.
IV. Na fyddwch afradlon yn eich geiriau, eithr yn gynnil yn eich ymadrodd, Jac. 1. 19. Bydded pôb dŷn escud i wrando, ⟨p. 20⟩diog i lefaru. Yr ydym ni yn fynychach yn tristháu am ddywedyd nag am dewi. Na ddywaid wrth nêb yr hyn y fyddei er neweid i ti pe'i cyhoeddit; canys yr hwn y sydd yn awr yn ffrind i ti, a ddichon bôd yn elyn i ti ar ôl hyn. Yn enwedigol na ddatcuddia ûn dirgelwch ir Dŷn hwnnw, ac a wyddost ti sydd yn caru eraill yn fwy nâ thydi dy hun, canys ni ddichon efe gelu dim oddiwrth y rheini. Na ddywaid ti wrth néb yr hyn ni fynnit ti ei ddywedyd wrth eraill; canys oni elli di dy hun, pa fôdd y galli di dybied y dichon arall gelu y peth a berthyno i ti.
V. Ystyria in bwyllog cyn i ti lefaru; canys in fynych y mae tafodau dynion in rhedeg o flaen eu synhwyrau. Eithr rhagfeddylia di; a ydyw y peth in addas, ac in gyfamserol, ac yr ydwyt ar fedr ei lefaru; ac na fydded ith dafod redeg of flaen dy feddwl.
V. Ystyria yn bwyllog cyn i ti lefaru; canys yn fynych y mae tafodau dynion yn rhedeg o flaen eu synhwyrau. Eithr rhagfeddylia di; a ydyw y peth yn addas, ac yn gyfamserol, ac yr ydwyt ar fedr ei lefaru; ac na fydded ith dafod redeg of flaen dy feddwl.