A95346:116
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y mae in gyntaf Ddirfawr drugaredd a daioni Duw in ein tywys ni i edifeirwch; fell y dywaid y Apost. Rhuf. 2. 4. Y mae Duw beunydd in ein dilyn ni â'i drugareddau, ac ai gymmwynasau tu ag at ein eneidiau a'n cyrph; nid oes gennym ddim ac sydd dda ar nas derbynniasom ganddo ef. Oddiwrtho ef yr ydym in dal y cwbl ôll ar a feddwn: ac iddo ef yr ydym in rhwymedig am y cwbl ôll: mawr yw ei drugaredd ef tu ac at ein cyrph: a phòb trugaredd, a chymmwynas tu ag at yr enaid neu'r corph, sydd in ein galw, a'n gwahodd a'n cymmell ni i edifeirwch. Efe sy in rhoddi i ni fwyd, a diod, a dillad; y pethau hyn sydd in ein galw ni i edifeirwch. Efe a'n ceidw ni ar ei gôst ai draul ei hun, ymma ar y ddaiar; hyn a'n geilw i edifeirwch: yr haul, y lloer, a'r sêr a'n geilw ni i edifeirwch: Adar yr awyr, pŷsc y môr, a ffrwythau y ddaiar sy in llefain arnom in uchel ac in llafar, edifarhewch, edifarhewch.*
Y mae yn gyntaf Ddirfawr drugaredd a daioni Duw yn ein tywys ni i edifeirwch; fel y dywaid y Apost. Rhuf. 2. 4. Y mae Duw beunydd yn ein dilyn ni â'i drugareddau, ac ai gymmwynasau tu ag at ein eneidiau a'n cyrph; nid oes gennym ddim ac sydd dda ar nas derbynniasom ganddo ef. Oddiwrtho ef yr ydym yn dal y cwbl ôll ar a feddwn: ac iddo ef yr ydym yn rhwymedig am y cwbl ôll: mawr yw ei drugaredd ef tu ac at ein cyrph: a phòb trugaredd, a chymmwynas tu ag at yr enaid neu'r corph, sydd yn ein galw, a'n gwahodd a'n cymmell ni i edifeirwch. Efe sy yn rhoddi i ni fwyd, a diod, a dillad; y pethau hyn sydd yn ein galw ni i edifeirwch. Efe a'n ceidw ni ar ei gôst ai draul ei hun, ymma ar y ddaiar; hyn a'n geilw i edifeirwch: yr haul, y lloer, a'r sêr a'n geilw ni i edifeirwch: Adar yr awyr, pŷsc y môr, a ffrwythau y ddaiar sy yn llefain arnom yn uchel ac yn llafar, edifarhewch, edifarhewch.*
- *Pan bo pechadur in gyfrannog o drugareddau Duw, (fell yr ym ni oll bob munedyn o amser in gyfrannog o honynt) fe ddylei da'ywedyd in ei gallon fell hyn. Beth? a bechafi in erbyn y Duw hwnnw Sydd mor dda wrthif? a esceulusafi edifarhau a throi atto ef sydd beunydd â'i drugareddau in ceifio'n nhoddi i edifeirwch.Pan bo pechadur yn gyfrannog o drugareddau Duw, (fel yr ym ni oll bob munedyn o amser yn gyfrannog o honynt) fe ddylei da'ywedyd yn ei galon fel hyn. Beth? a bechafi yn erbyn y Duw hwnnw Sydd mor dda wrthif? a esceulusafi edifarhau a throi atto ef sydd beunydd â'i drugareddau yn ceifio'n nhoddi i edifeirwch.