A95346:181
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
A fenthygiwch chwi in awr i ni gynnorthwy eich cydwybodau, o ran coppio hyn o Orchymyn Duw ar eich calonneu, a chymmeryd Coppi allan o'r Ordinhâd hon, in rheol i'ch bucheddau? [Beth bynnag] nid ydynt eirieu in amgyffred cymmaint, a phe baent in cynnwys ynddynt bob gwagedd neu bechod; eithr y maent mor ehang ac y cynhwysant eich holl ddyledswydd.
A fenthygiwch chwi yn awr i ni gynnorthwy eich cydwybodau, o ran coppio hyn o Orchymyn Duw ar eich calonneu, a chymmeryd Coppi allan o'r Ordinhâd hon, yn rheol i'ch bucheddau? [Beth bynnag] nid ydynt eirieu yn amgyffred cymmaint, a phe baent yn cynnwys ynddynt bob gwagedd neu bechod; eithr y maent mor ehang ac y cynhwysant eich holl ddyledswydd.
1. (I ddechreu ar yr isaf:) Rhaid yw hid in oed i weithredoedd eich galwedigaethau corphorawl wrth ddiwydrwydd. Trwy chwŷs eich wynebau y bwyttewch fara, Gen. 3. 9. Chwe diwrnod y gweithi ac y gwnei dy holl waith, Ex. 20. 9. Y nêb ni fynno weithio na chaed fwytta chwaith, 2 Thes. 3. 10. Y rhai a rodiant in afreolus, ac ydynt rodresgar, heb ⟨p. 72⟩weithio trwy lonyddwch, ydynt iw gochel, ac iw cywilyddio gan yr Eglwys, 2 Thes. 3. 6. 11. 12, 14. Gweision diog ydynt anffyddlon i ddynion, ac anufydd i Dduw, yr hwn sy in gorchymmyn iddynt ufyddhau iw meistred in ôl y cnawd (eu meistred anghredadwy, annuwiol) ymhob pêth (a berthyn iw gwasanaeth a hynny.) nid â llygad wasanaeth fell bodlonwyr dynion, eithr mewn simlrwydd calon, in ofni Duw, gan wneuthur beth bynnac a wnelont megis ir Arglwydd ac nid i ddynion, gan wybod may gan yr Arglwydd (je am hyn) y derbyniant daledigaeth yr etifeddiaeth, Col. 3. 22, 23, 24. And yr hwn sydd in gwneuthur cam (drwy ddiogi, neu anffyddlondeb) a dderbyn am y cam a wnaeth. adn 25.