A95346:184
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Ai Rhieni ydych chwi, neu lywodraethwyr teuluoedd? Mae gennych chwi waith iw wneuthur dross Dduw, a thros eneidiau▪ eich plant, a'ch gweision: gwnewch ef â'ch holl egni. Ymdrinwch â hwynt in gall er hynny, in ddifrifol, ac in fynych, ynghylch eu ⟨p. 73⟩pechod, eu dyledswydd, a'u gobaith am y nefoedd. Mynegwch iddynt i bale y maent in mined, a pha ford y rhaid iddynt fined. Perwch iddynt deal, fôd ganthynt uwch Tâd a Meistr, yr hwn y mae 'n rhaid ei wasaneuthu in gyntaf, a bôd gwaith mwy iw wneuthur nâ 'r eiddo chwi. Deffrowch hwynt o'u diddarbodwch a'u diogi anianawl: Na throwch mo'ch holl ddyled swyddau teuluaidd in ffurf ddefodol ddifywyd, (pan bynnac a'i in ddiragfyfyr ai trwy ragfy fyrio.) Siaredwch ynghylch Duw a'r Nefoedd, ac Uffern, a Sancteiddrwydd â'r cyfryw ddifrifwch, ar a weddei i ddynion sy in credu yr hyn a ddywedant, ac a fynnent ir sawl y llefarant wrthynt ei gredu. Nac ymddiddenwch â hwynt nac in drwmbluog, nac in ysmala, neu dan gellwair, ynghylch y cyfryw bethau ofnadwy, neu hyfrydlawn, ac anrhaethadwy. Cofiwch fôd eich Teuluoedd a chwithau, in mined ir bêdd▪ ac ir bŷd nid oes ynddo ddim lle mwy i'ch Annogaethau a'ch cynghorion: Nid oes dim Catecheisio, na holy, na difrifol addysgu arnynt in y bêdd, ir man y maent hwy a chwithau in mined. Rhaid yw bôd hynny in Awr, neu na bo bŷth; Ac am hynny gwnewch ef â'ch hôll egni. Rhaid i eiriau Duw fod in eich calonnau, a rhaid i chwithau eu dyfal hyspysu hwynt i'ch plant, a chrybwyll am danynt, pan eisteddoch in eich tai, a phan gerddoch ar y ford, a phan orweddoch i lawr, a phan gyfodoch i fynu, Deut▪ 6. 6, 7, 8, a'r 11. 18, 19. 20.
2. Ai Rhieni ydych chwi, neu lywodraethwyr teuluoedd? Mae gennych chwi waith iw wneuthur dros Dduw, a thros eneidiau▪ eich plant, a'ch gweision: gwnewch ef â'ch holl egni. Ymdrinwch â hwynt yn gall er hynny, yn ddifrifol, ac yn fynych, ynghylch eu ⟨p. 73⟩pechod, eu dyledswydd, a'u gobaith am y nefoedd. Mynegwch iddynt i ba le y maent yn myned, a pha ffordd y rhaid iddynt fyned. Perwch iddynt ddeall, fôd ganthynt uwch Tâd a Meistr, yr hwn y mae 'n rhaid ei wasaneuthu yn gyntaf, a bôd gwaith mwy iw wneuthur nâ 'r eiddo chwi. Deffrowch hwynt o'u diddarbodwch a'u diogi anianawl: Na throwch mo'ch holl ddyled swyddau teuluaidd yn ffurf ddefodol ddifywyd, (pa un bynnac a'i yn ddiragfyfyr ai trwy ragfy fyrio.) Siaredwch ynghylch Duw a'r Nefoedd, ac Vffern, a Sancteiddrwydd â'r cyfryw ddifrifwch, ar a weddei i ddynion sy yn credu yr hyn a ddywedant, ac a fynnent ir sawl y llefarant wrthynt ei gredu. Nac ymddiddenwch â hwynt nac yn drwmbluog, nac yn ysmala, neu dan gellwair, ynghylch y cyfryw bethau ofnadwy, neu hyfrydlawn, ac anrhaethadwy. Cofiwch fôd eich Teuluoedd a chwithau, yn myned ir bêdd ac ir bŷd nid oes ynddo ddim lle mwy i'ch Annogaethau a'ch cynghorion: Nid oes dim Catecheisio, na holi, na difrifol addysgu arnynt yn y bêdd, ir man y maent hwy a chwithau yn myned. Rhaid yw bôd hynny yn Awr, neu na bo bŷth; Ac am hynny gwnewch ef â'ch hôll egni. Rhaid i eiriau Duw fod yn eich calonnau, a rhaid i chwithau eu dyfal hyspysu hwynt i'ch plant, a chrybwyll am danynt, pan eisteddoch yn eich tai, a phan gerddoch ar y ffordd, a phan orweddoch i lawr, a phan gyfodoch i fynu, Deut 6. 6, 7, 8, a'r 11. 18, 19. 20.