A95346:196
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
10. In holl ddyledswyddau dy broffes o Dduwioldeb, Cyfiawnder, a Chariad▪ tu ac at Dduw, tu ac attat dy hun, neu eraill, cyfod, a gweithia a'th holl egni. Wit ti in ceisio ennyn dy enaid â chariad tu ac at Dduw? Ymdrocha ynghefn fôr ei gariad ef; rhyfedda oblegyd ei drugareddau; edrych in grâff ⟨p. 85⟩ar gynnyrcholdeb ei oruchel ddaioni: Praw a gwêl may grasol yw'r Arglwydd! Cofia fod in rhaid ei garu ef âth holl gallon, a'th holl enaid, ac a'th holl nerth: A fedri di dywallt dy gariad allan ar greadur, a rhoddi and ychydig ddefnynnau diffrwyth i Dduw?
10. Yn holl ddyledswyddau dy broffes o Dduwioldeb, Cyfiawnder, a Chariad▪ tu ac at Dduw, tu ac attat dy hun, neu eraill, cyfod, a gweithia a'th holl egni. Wyt ti yn ceisio ennyn dy enaid â chariad tu ac at Dduw? Ymdrocha ynghefn fôr ei gariad ef; rhyfedda oblegyd ei drugareddau; edrych yn grâff ⟨p. 85⟩ar gynnyrcholdeb ei oruchel ddaioni: Praw a gwêl mai grasol yw'r Arglwydd! Cofia fod yn rhaid ei garu ef âth holl galon, a'th holl enaid, ac a'th holl nerth: A fedri di dywallt dy gariad allan ar greadur, a rhoddi ond ychydig ddefnynnau diffrwyth i Dduw?
Pan fyddych in ei ofni ef, gad iw ofn gael rhwysg ar dy enaid, a gorchfygu pob ofn dynol.
Pan fyddych yn ei ofni ef, gad iw ofn gael rhwysg ar dy enaid, a gorchfygu pob ofn dynol.
Pan fyddych in ymddiried ynddo ef, gwna hynny heb anymddiried, a bwrw dy hun a'th offal arno ef: Ymmdiried iddo fell y dylei greadur ymddiried iw Dduw, ac fell y dylei aelodau Christ ymddiried iw pen au hanwyl Brynwr.