A95346:212
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cwest. 1. A allafi wneuthur dim ychwaneg nâ hyn tros Dduw, Yr hwn a rods y cwbl i mi, yr hwn a haedda 'r cwbl, yr hwn sydd in fy ngweled in fy Nyledswyddau a'm pechodau? Pan yw efe o bwrpas in fy mhrofi beth a allwyf ei wneuthur er ei fwyn ef a'i wasanaeth, a allafi wneuthur dim ychwaneg? A allafi ei garu ef ddim ychwaneg? ac ufyddhau, a gwilio, a▪ gweithio dim ychwaneg?
Cwest. 1. A allafi wneuthur dim ychwaneg nâ hyn tros Dduw, Yr hwn a roddes y cwbl i mi, yr hwn a haedda 'r cwbl, yr hwn sydd yn fy ngweled yn fy Nyledswyddau a'm pechodau? Pan yw efe o bwrpas yn fy mhrofi beth a allwyf ei wneuthur er ei fwyn ef a'i wasanaeth, a allafi wneuthur dim ychwaneg? A allafi ei garu ef ddim ychwaneg? ac ufyddhau, a gwilio, a▪ gweithio dim ychwaneg?
Cwest. 2. A allafi wneuthur dim ychwaneg nâ hyn tros Grist? Tros yr hwn a wnaeth cymmaint erofi? yr hwn a fu fyw mor ddichlyn, a ufyddhaodd mor berpheithlawn; a rodiodd mor ddidramgwydd a llariaidd; gan ddirmygu pôb abwyd, braint, a golud bydol? yr hwn a'm carodd hid angeu, ac sy in cynnyg i mi ei holl ddoniau in rhâd, ac a fynnei fy nwyn i ogoniant tragywyddol? Ai 'r egni diofal, oeraidd, trwmhyrddig hwn yw 'r goreu a allafi i dalu yr echwyn am yr holl Drugaredd hon?
Cwest. 2. A allafi wneuthur dim ychwaneg nâ hyn tros Grist? Tros yr hwn a wnaeth cymmaint erofi? yr hwn a fu fyw mor ddichlyn, a ufyddhaodd mor berpheithlawn; a rodiodd mor ddidramgwydd a llariaidd; gan ddirmygu pôb abwyd, braint, a golud bydol? yr hwn a'm carodd hyd angeu, ac sy yn cynnyg i mi ei holl ddoniau yn rhâd, ac a fynnei fy nwyn i ogoniant tragywyddol? Ai 'r egni diofal, oeraidd, trwmhyrddig hwn yw 'r goreu a allafi i dalu yr echwyn am yr holl Drugaredd hon?