A95346:217
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cwest. 6. A allafi wneuthur dim ychwaneg, yr hwn a fûm cyhyd in segur? a gerddafi ddim prysurach, yr hwn a gysgais tan brydnawn o'm dyddiau, pan yw in rhaid i Ddiwydrwydd fod in eglurhâd o'm hedifeirwch?
Cwest. 6. A allafi wneuthur dim ychwaneg, yr hwn a fûm cyhyd yn segur? a gerddafi ddim prysurach, yr hwn a gysgais tan brydnawn o'm dyddiau, pan yw yn rhaid i Ddiwydrwydd fod yn eglurhâd o'm hedifeirwch?
Cwest. 7. A allafi wneuthur dim ychwaneg, yr hwn nis gwn in awr nad hwn yw 'r gwaith olaf? yr hwn wyf in canfod gynted y mae fy amser in prysuro, ac in gwybod fod in rhaid i mi fined ar frŷs? yr hwn wyf in gwybod y rhaid i hynny fod in Awr, neu na byddo bŷth? ac may hyn yw 'r holl amser a gafi, ar yr hwn y mae didrangc fywyd in sefyll.
Cwest. 7. A allafi wneuthur dim ychwaneg, yr hwn nis gwn yn awr nad hwn yw 'r gwaith olaf? yr hwn wyf yn canfod gynted y mae fy amser yn prysuro, ac yn gwybod fod yn rhaid i mi fyned ar frŷs? yr hwn wyf yn gwybod y rhaid i hynny fod yn Awr, neu na byddo bŷth? ac mai hyn yw 'r holl amser a gafi, ar yr hwn y mae didrangc fywyd yn sefyll.
Cwest. 8. A allafi wneuthur dim gwell a mi in gwybod ym mlaen law, pa ragor neu wahanol olygiadau a fydd gan Ddyfalwch a Diofalwch, ir enaid deffrous wrth ail simio ac wrth ail edrych ar bethau? Pa gysur a fydd wrth farw ac in y farn, gallu dywedyd, mi a wneuthum fy ngoreu, neu ni bum i in godechial yr amser a gefais? A pha gystudd ac aflonyddwch calon fydd edrych in ol y prŷd hynny, ar Amser wedi ei golly, yr hwn nis gellir ei ail▪ ddychwel; ac ar fywyd o brawf, wedi ei daflu ymmaith ar bethau mor amherthynasol, tra 'r oedd y gwaith yr oeddym in byw o'i blegyd in sefyll heb ei wneuthur? A ddarparafi in awr trwy ymchwidawiaeth neu dreifflan y cyfryw feddyliau gwewyrloes a phoenydiol, i'm cydwybod ddeffrous?