A95346:222
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cwest. 11. A allwn i wneuthur dim ychwaneg, pettawn i siccr fôd fy jechydwriaeth in sefyll ar y ddyledswydd hon in unig? pettai in digwydd i mi in dragywydd in ôl y weddi hon: Neu os digwydd i enaid fy mhlentyn, fyngwâs, neu fy nghymydog, in dragywydd, fall y ffynno y goreu ar a allwyfi ei wneuthur in awr o ran eu troedigaeth hwynt? Am ddim ar a wn i fe all hynny fôd.
Cwest. 11. A allwn i wneuthur dim ychwaneg, pettawn i siccr fôd fy iechydwriaeth yn sefyll ar y ddyledswydd hon yn unig? pettai yn digwydd i mi yn dragywydd yn ôl y weddi hon: Neu os digwydd i enaid fy mhlentyn, fyngwâs, neu fy nghymydog, yn dragywydd, fal y ffynno y goreu ar a allwyfi ei wneuthur yn awr o ran eu troedigaeth hwynt? Am ddim ar a wn i fe all hynny fôd.
Cwest. 12. A fynnwn i, i Dduw ddyfod â'r yspardun ac â'r wialen? Pa fôdd yr wyfi in cwyno pan yw cystudd arnaf? A allafi nay oddef, nac ymfywiogi hebddo? onid gwell ⟨p. 97⟩i mi symmud fy 'nghamreu, a gweithio ar ammodau esmwythach?
Cwest. 12. A fynnwn i, i Dduw ddyfod â'r yspardun ac â'r wialen? Pa fôdd yr wyfi yn cwyno pan yw cystudd arnaf? A allafi nai oddef, nac ymfywiogi hebddo? onid gwell ⟨p. 97⟩i mi symmud fy 'nghamreu, a gweithio ar ammodau esmwythach?
Yr wyfi 'n scrifennu yr ystyriaethau hyn, nid fell y bo i werinos truein eu harfer hwynt in unig i aflonyddu eu hunain o herwydd eu gwendid, ac felly byw mewn trymder a hunan orthrymder, o herwydd na allant fôd cystal ac y chwennychent, neu wneuthur cymmaint a chystal ac y dylaent: Anobaith ni wellha ar y matter and ei waethygu: Eithr myfi a ddymunwn, ar ir enaid diowgswrth ddadleu y Cwestiwnau hyn rhyngtho ag ef ei hun, a phrofi, a oes ganddynt ddim grim i fywoccau ef, os dwys gymmwysir hwynt at y gallon, ac os ystyrir hwynt in ddifrifol.