A95346:238
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
9. Chwychwi oll sy in Grefftwŷr tlodion, gochelwch y petheu a ganlynant wawd y Cainiaid, rhag i hynny berry i chwi adael heibio waith eich galwedigaeth, a'ch troy eich hunain a'ch teuluoedd i reidusni. Canys oni thâl y nefoedd ejch gwaith mwyaf ar a alloch, ni thâl eich Cyrph mo'r lleiaf.
9. Chwychwi oll sy yn Grefftwŷr tlodion, gochelwch y petheu a ganlynant wawd y Cainiaid, rhag i hynny beri i chwi adael heibio waith eich galwedigaeth, a'ch troi eich hunain a'ch teuluoedd i reidusni. Canys oni thâl y nefoedd ejch gwaith mwyaf ar a alloch, ni thâl eich Cyrph mo'r lleiaf.
10. Y Cainiaid hyn a lefarant in erbyn deffrous gydwybodau, a chyffes yr holl fŷd. Beth bynnac a ddywedont hwy drwy freuddwyd eu dall ryfyg a'u diofalwch; o'r diwedd, pan agoro Angeu eu llygaid, hwy a lefant oll, O na buassem ni in Saint! O am allu o honom farw o farwolaeth y Cyfiawn, a bôd ein diwedd fell yr eiddo yntef! O na buassem ni in treulio yr Amser, a'r Gofal, a'r boen honno dross ein heneidiau, a dreuliasom ni ar yr hyn sy in awr in fustl i'n Coffadwriaeth! Ac er hyn ni chymmer y dynionach hyn ddim rhybydd, and in awr a wrthwynebant, ac a watwarant yr helynt, y dymunei yr holl fŷd o'r diwedd, ei bôd mor awyddus iddi ac y bu neb erioed.
10. Y Cainiaid hyn a lefarant yn erbyn deffrous gydwybodau, a chyffes yr holl fŷd. Beth bynnac a ddywedont hwy drwy freuddwyd eu dall ryfyg a'u diofalwch; o'r diwedd, pan agoro Angeu eu llygaid, hwy a lefant oll, O na buassem ni yn Saint! O am allu o honom farw o farwolaeth y Cyfiawn, a bôd ein diwedd fel yr eiddo yntef! O na buassem ni yn treulio yr Amser, a'r Gofal, a'r boen honno dros ein heneidiau, a dreuliasom ni ar yr hyn sy yn awr yn fustl i'n Coffadwriaeth! Ac er hyn ni chymmer y dynionach hyn ddim rhybydd, ond yn awr a wrthwynebant, ac a watwarant yr helynt, y dymunei yr holl fŷd o'r diwedd, ei bôd mor awyddus iddi ac y bu neb erioed.