A95346:248
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
A gelyniaeth y Cainiaid a ddichon ddysgu ir Cristion; beth a ddylei efe fôd, ac ymha beth y mae ei Odidowgrwydd ef in sefyll. Bywyd a Difrifwch y mae eich gelynion in ei gashau; Ac am hynny bywyd a Difrifwch sydd raid i chwithau eu cynnal uwchlaw pob dim, er maint a wrthwynebo rhagrithwyr marwgalon ⟨p. 113⟩arnoch, ac a ddywedant i'ch erbyn.
A gelyniaeth y Cainiaid a ddichon ddysgu ir Cristion; beth a ddylei efe fôd, ac ymha beth y mae ei Odidowgrwydd ef yn sefyll. Bywyd a Difrifwch y mae eich gelynion yn ei gashau; Ac am hynny bywyd a Difrifwch sydd raid i chwithau eu cynnal uwchlaw pob dim, er maint a wrthwynebo rhagrithwyr marwgalon ⟨p. 113⟩arnoch, ac a ddywedant i'ch erbyn.
Ha-wyr, nid coegbethau, and y pethau mwyaf a osododd Duw in ei Air gar eich bronnau, ac a'ch galwodd allan iw dilyn a'u meddiannu: a'ch amser iw ceisio hwynt sydd fir: Am hynny nid oes i chwi ddim amser i ymchwidawiaeth neu i dreifflan, na dim iw golly mewn seguryd a syrthni. Ac in anad neb fe ddylei Bregethwŷr fod in fwyaf teimladwy o hyn. Pettynt heb fôd in erbyn difrifol Sancteiddrwydd in eraill, Dwbl anwiredd yw i'r cyfryw ac ydynt hwy, fod in ei erbyn ynddynt eu hunain. Pethau mowrion sydd iddynt hwy iw hastudio ac i lefaru am danynt; a'r cyfryw bethau ar sy in galw am y difrifwch, a'r parch, a'r dwysdra mwyaf in yr ymadroddwr, ac in condemnio pob gwegi mewn matter a moes. Y Gŵr a anfonwyd gan Grist i redeg am goron anfarwol, neu i hyfforddi eraill in y cyfryw yrfa, i waredu ei enaid ei hun, neu eraill, o ddidrangc drueni, a ddylei gwilyddio, ei fôd in llenwi ei amser â gwegi, a'i fod in esceulus ac oeraidd ynghylch y cyfryw bethau mowrion a phwysfawr. Yr holl gallon a'r enaid, a'r egni sy in ddigon bychan i fatterion o bwys mor anrhaethadwy. Pan glywwyfi Bregethwyr neu bobl in treulio eu hamser mewn Pethau bychain anffrwythlon, amherthynasol, y rhai sy in eu tynnu hwynt oddiwrth orchwyl eu bucheddau, neu in ymbepreth neu chwarae â'r matterion mwyaf, in hytrach nâi harfer, a sôn am danynt mewn difrifwch cyfattebol i'r dwysder sy ynddynt; Mynych