Hawsed yw rhoddi henw o ddrygair ar bob math ar din, ac ar bob dyledswydd? Bwrw fod dŷn in Rhagrithiol neu in falch? Cymmeryd y dŷn doethaf am din opinionus, oblegyd nad yw efe wrth fôdd yr achwynwr? Galw ein hufydd-dod i Dduw ar enw anufydddod i ddŷn, pan yw dŷn in ei orafun, fall y ⟨p. 138⟩trinasant hwy y try thystion, Dan. 3. a Daniel ei hun hefyd am weddio in ei dŷ, Dan. 6. er iddynt gyfaddeu eu hunain nad oedd ganddynt ddim arall in ei erbyn ef? Galw gwirionedd Duw ar enw Heresi, a heresy ar enw gwirionedd? Bwrw fod pawb mewn Schism, ar na lefaso ddarostwng eu heneidiau i drawsreolaeth, a thrahaus draddodiadau Meibion Balchder, y rhai nid oes ganthynt nac Awdurdod na Gallu i'n llywodraethu ni, megis ac y mae'r Papistiaid in trîn rhan fawr o'r bŷd Cristianogol▪ Gosod maglau i Gydwybodau dynion, ac yna achwyn arnynt am syrthio ir magleu hynny? Gwneuthur newyddion Byngciau'r ffydd, nes eu mined tu hwnt goruwch dealltwriaeth Dwyfol a rhesymmol greduniaeth, ac yna ein condemno am na chredwn hwynt? Gwneuthur Cyfreithiau i'r Eglwys, afreidiol in eu tŷb hwynt eu hunain; a phechadurus in nhŷb eraill, a gorchymmyn pethau y gwyddant hwy fod eraill in tybiaid fôd yr Arglwydd in eu gwahardd, ac yna eu llwytho hwynt â dioddefiadau, ac a gwradwyddiadau yr anufydd, cynnhennus, hereticiaidd, Schismaticiaidd neu derfysgus? Galw dynion in bleidiog oni byddant o'u plaid hwy? ac in Sectariaid, oni ddarostyngant eu heneidiau in anrhesymmol iddynt hwy; ac ymgysylltu â Sect Arglwyddiaidd in erbyn yr Undeb a'r Symlrwydd cyffredinol? y pethau hyn oll a arfer y Papistiaid ar Eglwys Grist. O howsed, and och mor anrhesymmol, ac etto mor ⟨p. 139⟩ddirwystr yw hyn ei gŷd? Hawsed yw galw cyfarfod Cristianogion sobr, i weddio ac adeiladu eu gilydd, (y cyfryw ac oedd hwnnw, Act. 12. 12. ar enw confenticl neu gymanfa derfyscus Schismaticiaidd? a chymanfa Meddwon, a chwareyddion a'r enw boneddigeiddiach a lay gwradwyddus? dywedyd fod un in mined in Bregethwr, pan geryddo ef in weddaidd un arall am eu bechodau, neu ei cynghoro in garedigol o ran eu Jechydwriaeth, neu a roddo addysc oleu angenrheidiol iw Deulu, dross yr hwn y mae in rhaid iddo roddi cyfrif? Coeliwch fi, ni bid and esgus gwan i nêb a fyddo elyn i ddiwydrwydd Saint, ei fod ef fall hyn in bwrw cochl dross ei enllib, ac in gwisgo Saint â gwisg Rhagrithiwr, ac â charpiau rhwy Sect ffieidd-gas.
Hawsed yw rhoddi henw o ddrygair ar bob math ar ddyn, ac ar bob dyledswydd? Bwrw fod dŷn yn Rhagrithiol neu yn falch? Cymmeryd y dŷn doethaf am ddyn opinionus, oblegyd nad yw efe wrth fôdd yr achwynwr? Galw ein hufydd-dod i Dduw ar enw anufydddod i ddŷn, pan yw dŷn yn ei orafun, fal y ⟨p. 138⟩trinasant hwy y tri thystion, Dan. 3. a Daniel ei hun hefyd am weddio yn ei dŷ, Dan. 6. er iddynt gyfaddeu eu hunain nad oedd ganddynt ddim arall yn ei erbyn ef? Galw gwirionedd Duw ar enw Heresi, a heresi ar enw gwirionedd? Bwrw fod pawb mewn Schism, ar na lefaso ddarostwng eu heneidiau i drawsreolaeth, a thrahaus draddodiadau Meibion Balchder, y rhai nid oes ganthynt nac Awdurdod na Gallu i'n llywodraethu ni, megis ac y mae'r Papistiaid yn trîn rhan fawr o'r bŷd Cristianogol▪ Gosod maglau i Gydwybodau dynion, ac yna achwyn arnynt am syrthio ir magleu hynny? Gwneuthur newyddion Byngciau'r ffydd, nes eu myned tu hwnt goruwch dealltwriaeth Dwyfol a rhesymmol greduniaeth, ac yna ein condemno am na chredwn hwynt? Gwneuthur Cyfreithiau i'r Eglwys, afreidiol yn eu tŷb hwynt eu hunain; a phechadurus yn nhŷb eraill, a gorchymmyn pethau y gwyddant hwy fod eraill yn tybiaid fôd yr Arglwydd yn eu gwahardd, ac yna eu llwytho hwynt â dioddefiadau, ac a gwradwyddiadau yr anufydd, cynnhennus, hereticiaidd, Schismaticiaidd neu derfysgus? Galw dynion yn bleidiog oni byddant o'u plaid hwy? ac yn Sectariaid, oni ddarostyngant eu heneidiau yn anrhesymmol iddynt hwy; ac ymgysylltu â Sect Arglwyddiaidd yn erbyn yr Undeb a'r Symlrwydd cyffredinol? y pethau hyn oll a arfer y Papistiaid ar Eglwys Grist. O howsed, ond och mor anrhesymmol, ac etto mor ⟨p. 139⟩ddirwystr yw hyn ei gŷd? Hawsed yw galw cyfarfod Cristianogion sobr, i weddio ac adeiladu eu gilydd, (y cyfryw ac oedd hwnnw, Act. 12. 12. ar enw confenticl neu gymanfa derfyscus Schismaticiaidd? a chymanfa Meddwon, a chwareyddion a'r enw boneddigeiddiach a llai gwradwyddus? dywedyd fod un yn myned yn Bregethwr, pan geryddo ef yn weddaidd un arall am eu bechodau, neu ei cynghoro yn garedigol o ran eu Jechydwriaeth, neu a roddo addysc oleu angenrheidiol iw Deulu, dros yr hwn y mae yn rhaid iddo roddi cyfrif? Coeliwch fi, ni bydd ond esgus gwan i nêb a fyddo elyn i ddiwydrwydd Sant, ei fod ef fal hyn yn bwrw cochl dros ei enllib, ac yn gwisgo Sant â gwisg Rhagrithiwr, ac â charpiau rhwy Sect ffieidd-gas.