Pettei and am dy einioes di, neu einioes dy blant, dy gyfaill, neu dy elyn; neu i ddiffodd tan in dy dŷ, neu in y Dref, Oni chynnhyrfit ti a gwneuthur dy oreu? Ac a fyddi di segur pan yw bywyd tragywyddol in sefyll ar y peth? Gad i Satan ruo in dy erbyn drwy ei offerynnau. Gad i bechaduriaid diddarbod siarad dross amser am yr hyn nis gwyddant ⟨p. 147⟩pa beth, hid oni wnelo Duw iddynt newid eu tôn. Deved a ddelo i'th gnawd: Nid yw y rhai'n bethau i ddal-sulw mor lawyer arnynt, gan doŷn a ymrwymodd i ddidrangc fywyd. Och pa bethau yw y rhai'n wrth y pethau y galwyd di iw dilyn! Ewch rhagoch gan hynny Gristianogion in y gwaith a ddechrevasoch. Gwnewch ef in bwyllog, a gwnewch in hollawl, Cymmerwch y cwbl ir unffordd, Gorchwylion Duwioldeb, Cyfiownder, a Chariad; Eithr gwnewch ef in awr in ddiymdro, a gwnewch ef in ddifrifol â'ch holl egni. Nis gwn i pa gwmmwl o dywyllwch a gymmerodd afael ar feddyliau y sawl a lefarasant in erbyn hyn: neu pa dearth anghevol a gymmerodd afaei ar eu calonnau, a'u gwneuthur mor lledsyn, heb reswm dynol ynddynt. Om rhan fy hun, er i mi fyw in her o amser in deimladwy mor werthfawr yw amser▪ ac na bûm i in segur hollawl in y bid; Etto pan yw fy meddyliau ddwysaf am y didrangc ddigwyddiadau o'm gwaith, ac am ansiccrwydd a byrdra fy amser, yr wyfi in synnu feddwl fedru o'm calon fod mor hwyrfrydig a diddar bod, na wnaethwn i ychwaneg in y cyfryw achos. Yr Arglwydd ai gŵyr, a'm Cydwybod archolledig in fy'nghyhuddo ai gŵyr, fod fy Niogi mor gwilyddus a rhyfeddol gennif, am bôd in synnu i feddwl, nad yw fy mwriadau ddim cryfach, na'm hawydd-search ddim bywioccach, na'm llafur a'm Diwydrwydd ddim mwy, pan may Duw yw'r hwn sy in gorchymmyn, a'i Gariad sy in annog, a'i ⟨p. 148⟩Ddigofaint yw'r Yspardun, ac mai'r Nefoedd neu Uffern fydd y diwedd. Oh pa fucheddau a ddylaem ni bawb oll eu bucheddu▪ y rhai y mae gennym bethau o gyfryw berthynas anrhaethadwy ar ein dwylaw, oni bae fod ein calonneu ym mron marw o'n mewn! llefared y sawl a fynno in erbyn y cyfryw fuchedd, fyngofid a'm cwynfan beunyddiol i a gaiff fod, fy môd mor ddwl ac in gwneuthur cyn lleied. Mi a wn nad ydyw ein gweithredoedd in llesol ir Holl alluog, ac nad oes ynddynt ddim cyfattebwch cydwedd iw wobr ef, ac ni allant sefyll in ei wydd ef, and megis ac y maent in gymmeradwy in yr Arglwydd ein Cyfiawnder, a chwedi eu Pêrarogli drwy arogldarth ei haeddedigaethau ef.
Pettei ond am dy einioes di, neu einioes dy blant, dy gyfaill, neu dy elyn; neu i ddiffodd tan yn dy dŷ, neu yn y Dref, Oni chynnhyrfit ti a gwneuthur dy oreu? Ac a fyddi di segur pan yw bywyd tragywyddol yn sefyll ar y peth? Gad i Satan ruo yn dy erbyn drwy ei offerynnau. Gad i bechaduriaid diddarbod siarad dros amser am yr hyn nis gwyddant ⟨p. 147⟩pa beth, hyd oni wnelo Duw iddynt newid eu tôn. Deued a ddelo i'th gnawd: Nid yw y rhai'n bethau i ddal-sulw mor llawer arnynt, gan doŷn a ymrwymodd i ddidrangc fywyd. Och pa bethau yw y rhai'n wrth y pethau y galwyd di iw dilyn! Ewch rhagoch gan hynny Gristianogion yn y gwaith a ddechreuasoch. Gwnewch ef yn bwyllog, a gwnewch yn hollawl, Cymmerwch y cwbl ir unffordd, Gorchwylion Duwioldeb, Cyfiownder, a Chariad; Eithr gwnewch ef yn awr yn ddiymdro, a gwnewch ef yn ddifrifol â'ch holl egni. Nis gwn i pa gwmmwl o dywyllwch a gymmerodd afael ar feddyliau y sawl a lefarasant yn erbyn hyn: neu pa darth angheuol a gymmerodd afaei ar eu calonnau, a'u gwneuthur mor lledsyn, heb reswm dynol ynddynt. Om rhan fy hun, er i mi fyw yn hir o amser yn deimladwy mor werthfawr yw amser▪ ac na bûm i yn segur hollawl yn y byd; Etto pan yw fy meddyliau ddwysaf am y didrangc ddigwyddiadau o'm gwaith, ac am ansiccrwydd a byrdra fy amser, yr wyfi yn synnu feddwl fedru o'm calon fod mor hwyrfrydig a diddar bod, na wnaethwn i ychwaneg yn y cyfryw achos. Yr Arglwydd ai gŵyr, a'm Cydwybod archolledig yn fy'nghyhuddo ai gŵyr, fod fy Niogi mor gwilyddus a rhyfeddol gennif, am bôd yn synnu i feddwl, nad yw fy mwriadau ddim cryfach, na'm hawydd-serch ddim bywioccach, na'm llafur a'm Diwydrwydd ddim mwy, pan mai Duw yw'r hwn sy yn gorchymmyn, a'i Gariad sy yn annog, a'i ⟨p. 148⟩Ddigofaint yw'r Yspardun, ac mai'r Nefoedd neu Ʋffern fydd y diwedd. Oh pa fucheddau a ddylaem ni bawb oll eu bucheddu▪ y rhai y mae gennym bethau o gyfryw berthynas anrhaethadwy ar ein dwylaw, oni bae fod ein calonneu ym mron marw o'n mewn! llefared y sawl a fynno yn erbyn y cyfryw fuchedd, fyngofid a'm cwynfan beunyddiol i a gaiff fod, fy môd mor ddwl ac yn gwneuthur cyn lleied. Mi a wn nad ydyw ein gweithredoedd yn llesol ir Holl alluog, ac nad oes ynddynt ddim cyfattebwch cydwedd iw wobr ef, ac ni allant sefyll yn ei wydd ef, ond megis ac y maent yn gymmeradwy yn yr Arglwydd ein Cyfiawnder, a chwedi eu Pêrarogli drwy arogldarth ei haeddedigaethau ef.