A95346:296
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Mi a dybygwn fy mod in gweled pa wed y Cythryblus gyndderiogwch chwi in eich erbyn eich hunain, ac y rhwygwch eich calonnau trwy ymddial arnoch eich hunain (oddieithr i râs ei ragflaenu trwy ddiogelach edifeirwch) pan feddylioch in rhyhwyr pa fodd y buoch fyw ar y ddaiar, a pha amseroedd euraid o râs a gollasoch, gan dirmygu pawb ⟨p. 152⟩ar na fynnent ei colli hwynt mor ynfyd a chwitheu. Os parodd edifeirwch i fywyd, i Paul felly ei alw ei hun in annoeth, in anufydd, in cyfeiliorni, ac in ynfydu in fawr, Tit. 3. 3. Act. 26. 11, chwi a ellwch feddwl pa fodd y pair poenydiol edifeirwch i chwi eich galw eich hunain in rhyhwyr.
Mi a dybygwn fy mod yn gweled pa wedd y Cythryblus gyndderiogwch chwi yn eich erbyn eich hunain, ac y rhwygwch eich calonnau trwy ymddial arnoch eich hunain (oddieithr i râs ei ragflaenu trwy ddiogelach edifeirwch) pan feddylioch yn rhyhwyr pa fodd y buoch fyw ar y ddaiar, a pha amseroedd euraid o râs a gollasoch, gan dirmygu pawb ⟨p. 152⟩ar na fynnent ei colli hwynt mor ynfyd a chwitheu. Os parodd edifeirwch i fywyd, i Paul felly ei alw ei hun yn annoeth, yn anufydd, yn cyfeiliorni, ac yn ynfydu yn fawr, Tit. 3. 3. Act. 26. 11, chwi a ellwch feddwl pa fodd y pair poenydiol edifeirwch i chwi eich galw eich hunain yn rhyhwyr.
Och hawyr! ni fedrwch chwi ddirnad, tra byddoch in eistedd ymma mewn jechyd, ac esmwythdra, a pharch, pa ragor neu wahan feddyliau a fŷdd ynoch y prŷd hynny am fywyd Sanctaidd ac ansanctaidd! Ynfytted y tybiwch chwi fôd y rhai, nid oedd ganddynt and yspaid un ces o baratoad i fywyd tragwyddol, ac ai hesceulusasant in fyrbwyll: Ac mor deimladwy a fyddwch chwi y pride hynny o ddoethineb y ffyddloniaid y rhai a adnabuant eu hamser, ac a wnaethant ddefnydd o hono! Yr awron Doethineb a gyfiawnheir gan ei phlant ei hun; and y pride hynny mor deimladwy y cyfiawnheir hi gan ei holl elynion! Och drwy ba wewyr yr edrych eneidiau colledig in ôl, ar oes o drugaredd ac odfeydd, a goeg ddiystyrasant hwy fall hyn, ac a gysgasant ymmaith mewn syfrdân seguryd, ac a ynfyd dreuliasant mewn pethau diddim.