A95346:330
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Beth bynnag, Bechaduriaid, a ddywedo y Cythrael a gwŷn gynddeiriog in erbyn buchedd Sanctaidd, Duw a'ch cydwybodau eich hunain a gânt fôd in dystion i ni, na ddymunasom ni ddim anrhesymmol neu afreidiol oddi ar eich dwylo. Myfi a wn may Prif offeryn dichell Diafol yw, pan nas gallo gadw pob Crefydd tan ddirmyg, Codi mwlwg o amrafael in y bŷd, ynghylch enwau, a ffurfiau, a pherthynaseu Crefydd, fell y gallo ef ddal dynion i ⟨p. 176⟩brysur ymryson ynghylch y pethau hyn, tra byddo Crefydd ei hun in cael ei hesceuluso, neu heb wybod oddi wrthi; ac fell y gallo berry i ddynion goelio fôd ganddynt ryw Grefydd, o herwydd eu bôd o ryw blaid neu ei gilydd in yr ymrafaelion hyn; Ac in enwedig fell y gallo hudo dynion i gyfrif y pethau sydd o sylwydd gwir Grefydd ym mysc y pyngciau lay ac amheus hyn, a pheri i bechaduriaid goelio, nad dim and opinion dychlynfryd rhyw unig Blaid y maent hwy in ei wrthod, tra fyddont in gwrthod difrifol ymarfer pob gwir Grefydd. Ac felly y mae'r Cythrael in ynnill mwy drwy yr ymrafaelion a'r ymrysonau gwaelion hyn, a ddigwyddant drwy ddynion gorweigion cynnhennus, nag a alley efe ei gwneuthur drwy waith rhai Digred, Cenhedlic, neu halogedig, ar osteg in gwrthwynebu: fell na fedrafi, nac undŷn ar y mae dynion opinionus a'u bryd ar ymgenhennu ag ef, fynegi pa fôdd i'ch annog i wîr ymarfer y Grefydd Gristianogawl, na byddoch chwi, in ebrwydd in meddwl am ryw byngciau▪ in y rhai yr ydym in cael y gair o anghyttuno â chwi, neu in adgofio rhyw ddadwrdd dynion maleusus, y rhai sydd ganddynt ŵg in erbyn person y llefarwr, fell y cadwont eich eneidiau rhag cael llês er jech ydwriaeth oddiwrth yr athrawiaeth yr ydych chwi eich hunain in ei phroffesu.
Beth bynnag, Bechaduriaid, a ddywedo y Cythrael a gwŷn gynddeiriog yn erbyn buchedd Sanctaidd, Duw a'ch cydwybodau eich hunain a gânt fôd yn dystion i ni, na ddymunasom ni ddim anrhesymmol neu afreidiol oddi ar eich dwylo. Myfi a wn mai Prif offeryn dichell Diafol yw, pan nas gallo gadw pob Crefydd tan ddirmyg, Codi mwlwg o amrafael yn y bŷd, ynghylch enwau, a ffurfiau, a pherthynaseu Crefydd, fel y gallo ef ddal dynion i ⟨p. 176⟩brysur ymryson ynghylch y pethau hyn, tra byddo Crefydd ei hun yn cael ei hesceuluso, neu heb wybod oddi wrthi; ac fel y gallo beri i ddynion goelio fôd ganddynt ryw Grefydd, o herwydd eu bôd o ryw blaid neu ei gilydd yn yr ymrafaelion hyn; Ac yn enwedig fel y gallo hudo dynion i gyfrif y pethau sydd o sylwydd gwir Grefydd ym mysc y pyngciau llai ac amheus hyn, a pheri i bechaduriaid goelio, nad dim ond opinion dychlynfryd rhyw unig Blaid y maent hwy yn ei wrthod, tra fyddont yn gwrthod difrifol ymarfer pob gwir Grefydd. Ac felly y mae'r Cythrael yn ynnill mwy drwy yr ymrafaelion a'r ymrysonau gwaelion hyn, a ddigwyddant drwy ddynion gorweigion cynnhennus, nag a allei efe ei gwneuthur drwy waith rhai Digred, Cenhedlic, neu halogedig, ar osteg yn gwrthwynebu: fel na fedrafi, nac undŷn ar y mae dynion opinionus a'u bryd ar ymgenhennu ag ef, fynegi pa fôdd i'ch annog i wîr ymarfer y Grefydd Gristianogawl, na byddoch chwi, yn ebrwydd yn meddwl am ryw byngciau yn y rhai yr ydym yn cael y gair o anghyttuno â chwi, neu yn adgofio rhyw ddadwrdd dynion maleusus, y rhai sydd ganddynt ŵg yn erbyn person y llefarwr, fel y cadwont eich eneidiau rhag cael llês er iech ydwriaeth oddiwrth yr athrawiaeth yr ydych chwi eich hunain yn ei phroffesu.