A95346:364
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
A fwriwch chwi ymaith yr enaid a'r Corph, y rhan o'r tu fewn a'r rhan o'r tu allan o grefydd, er mwyn gwrthwynebu Rhagrith? Os ymddengys eraill ei bôd in caru Duw pan nad ydynt, ai ni wnewch chwi gan hynny cymmaint ac ymddangos i wneuthur hynny? felly ymma ynghylch Parch yngwasanaeth Duw: Ni ddylei y Rhagrithiwr gael rhagori ar y Diragrith mewn dim ar sydd wir dda. Hwn yw'r Môdd ar wasanaeth Duw yr ydym in eich perswadio iddo, ac nid i neb rhyw fôdd arall. A oes in hyn ddim achos o ym▪ ryson? Gwnewch fwy cyfrif o'r rhan Ysprydol, a cheisiwch wybod ystr a meddwl y scrythur hyn [Trugaredd a ewyllyssiaf ac nid aberth] fall drwy hynny na farnoch y gwirion, ac ni chewch chwi sith ddywedyd, y byddwn ni ammharottach nâ chwitheu i weddeidd▪ dra, ac ymddygiad parchedig yngwasanaeth Duw.
A fwriwch chwi ymaith yr enaid a'r Corph, y rhan o'r tu fewn a'r rhan o'r tu allan o grefydd, er mwyn gwrthwynebu Rhagrith? Os ymddengys eraill ei bôd yn caru Duw pan nad ydynt, ai ni wnewch chwi gan hynny cymmaint ac ymddangos i wneuthur hynny? felly ymma ynghylch Parch yngwasanaeth Duw: Ni ddylei y Rhagrithiwr gael rhagori ar y Diragrith mewn dim ar sydd wir dda. Hwn yw'r Môdd ar wasanaeth Duw yr ydym yn eich perswadio iddo, ac nid i neb rhyw fôdd arall. A oes yn hyn ddim achos o ym▪ ryson? Gwnewch fwy cyfrif o'r rhan Ysprydol, a cheisiwch wybod ystr a meddwl y scrythur hyn [Trugaredd a ewyllyssiaf ac nid aberth] fal drwy hynny na farnoch y gwirion, ac ni chewch chwi fyth ddywedyd, y byddwn ni ammharottach nâ chwitheu i weddeidd▪ dra, ac ymddygiad parchedig yngwasanaeth Duw.
6. Duw a fin ei wasanaethu mewn Purdeb a sancteiddrwydd, â chalonnau ac â dwylaw glân, ac nid a'r cyfryw ar sy in aros in aflan gan evogrwydd un pechod gwirfôdd. Mae efe in ffieiddio aberth yr annuwiol a'r anufydd. Y neb a drŷ ei glust ymmaith rhag gwrando 'r gyfraith, fydd ffiaidd ei weddi hefyd, Dih. 28. 9. a'r 15. 8. a'r 21. 27. Isaiah 1. 13. Preg. 5. 1, 2, 3, 4. [Beth yw lluosogrwydd ⟨p. 200⟩