A95346:366
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Chwareu 'r Glwth, neu 'r Meddwyn, neu 'r ffiaidd Odinebwr liw did, ac yna dyfod at Dduw in yr hwyr-nôs, fell ped fai i wneuthur iddo jawn drwy weddi ragrithiol; Cablu enw Duw, a gwrthwynebu ei Deyrnas ai Lywodraeth ynoch eich hunain ac eraill, a gwneuthur eich Ewyllys eich hunain, a chasau a gwatwar y sawl a wnânt ei ewyllys ef, ac a astudiant ei ewyllys fall y gallont ei wneuthur; ac yna gwdedio [ar gael o enw Duw ei sancteiddio, dyfod ei deyrnas, a gwneuthur ei ewyllys.] ammherchi Duw yw hyn, ac nid ei wasanaeuthu a rhyngu bôdd iddo. Byddwch ⟨p. 201⟩fyw in ôl eich gweddiau, a dangosed eich Bucheddau in gystadl a'ch geiriau beth yr ydych in ei ddymuno. Dyma wasanaeth Duw yr ydym in eich galw iddo. A ellwch chwi ddywedyd fod dim achos o ymryson in hyn oll? A oes neb rhyw ray o blaid in y bŷd ym mysc Christianogion, na rhai Sobr Digrêd a feiddia ddywedyd in ei erbyn?
Chwareu 'r Glwth, neu 'r Meddwyn, neu 'r ffiaidd Odinebwr liw dydd, ac yna dyfod at Dduw yn yr hwyr-nôs, fel ped fai i wneuthur iddo iawn drwy weddi ragrithiol; Cablu enw Duw, a gwrthwynebu ei Deyrnas ai Lywodraeth ynoch eich hunain ac eraill, a gwneuthur eich Ewyllys eich hunain, a chasau a gwatwar y sawl a wnânt ei ewyllys ef, ac a astudiant ei ewyllys fal y gallont ei wneuthur; ac yna gwdedio [ar gael o enw Duw ei sancteiddio, dyfod ei deyrnas, a gwneuthur ei ewyllys.] ammherchi Duw yw hyn, ac nid ei wasanaeuthu a rhyngu bôdd iddo. Byddwch ⟨p. 201⟩fyw yn ôl eich gweddiau, a dangosed eich Bucheddau yn gystadl a'ch geiriau beth yr ydych yn ei ddymuno. Dyma wasanaeth Duw yr ydym yn eich galw iddo. A ellwch chwi ddywedyd fod dim achos o ymryson yn hyn oll? A oes neb rhyw rai o blaid yn y bŷd ym mysc Christianogion, na rhai Sobr Digrêd a feiddia ddywedyd yn ei erbyn?
7. Duw a fin ei wasanaethu in Gwbl-oll ac in hollawl; in ei holl orchymynion, ac â holl nerthoedd eich enaid, mewn gorchwylion o Dduwioldeb, Cyfiownder a Chariad, y rhai ni ddylaent bŷth gael moi gwahanu. Niwasanaetha i chwi wneuthur lliw o'ch Cariad in erbyn dyledswyddau Duwioldeb; Am fôd Duw i gael y rhagorfraint in eich Cyfrifiad, a'ch Cariad, a'ch gwasanaeth: Ac er ei fwyn ef y mae gwneuthur pob dim oll ar â wneir i Ddŷn. Ni wasanaetha i chwi osod ifynu ddyledswyddau Duwioldeb, in erbyn dyledswyddau Cyfiownder, Caredigrwydd a Sobrwydd: Nid yw hynny wir Dduwioldeb, ar nas dygo allan y pethau hyn. Rhaid yw Caru Duw uwchlaw pawb, a'n cymmydog megis ni ein hunain; a'r ddau fâth hyn ar gariad ydynt ddiwahanol. Gwnewch-bob daioni ar a alloch i bawb tra caffoch odfa, in enwedig ir rhai sydd o deulu'r ffydd,