A95346:373
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Eithr a ddichon y bid gwallgofus anianawl goelio, may melusach a dedwyddach yw ymhoywi ⟨p. 207⟩mewn gwychder, a digrifwch cnawdol, a chyndderiogi in erbyn y duwiol dross ennyd, hid oni chymmero dialled Duw afel arnynt, a thalu iddynt eu gwobr, nâ byw ynghariad Duw, a disgwyl in amyneddol am gyflawniad o addewid Duw o lawenydd tragywyddol? Och pa ryw beth yw gwŷn gnawdol a dire neu ddrygchwant cynddeiriog, a dall anghredinaeth! Yr Arglwydd a drugarhao wrth bechaduriaid Siommedig: Gwaith y Cythrael yw ceisio troi'r bid in Bedlam, neu Le i ray gwall-gofus: ac ysywaeth, mor rhyfedd y ffynnodd ganddo! fall y medr cynnifer o ddynion gymmeryd eu trueni mwyaf in happusrwydd iddynt, a'r unig happusrwydd in fywyd anrhaith ei oddef! Je, a bôd in dig wrth bawb nad yw o'u meddwl hwynt, ac na wnelont cymmaint cyfrif o frynti a ffoledd, a chin lleied cyfrif o Dduw a Gogoniant ac a wnânt hwythau! Megis y Pendefig yr hwn oedd in Lloerig, neu in Ynfyd ar amserau, a pha brŷd bynnag y byddei allan o'i hwyl, efe a dynge• fod pawb ni ddywedent, fell y dywedei yntef, wedi ynfydu, ac a barei hebrwng ei holl weision ni wnaent ar ei ôl ef, i Bedlam, ac yno yr oedd in rhaid iddynt aros megis rhai ammhwyllog, hid oni ddelei eu Harglwydd iw bwyll drachefn allan o'i Ammwyll▪ Felly y trinir ac y crybwyllir am weision Duw in y bŷd, megis pe baent allan o'u hwyl, cyhyd ac y bo'r bŷd heb ei jachau o'i Anhwyl. Fell y mae'r Gŵr, felly y mae ei farn, ⟨p. 208⟩ac felly y mae ei flâs ai ddymuniad, ai ddifyrrwch: Pan oeddwn blentyn, yr oedd in lawyer mwy fy chwant i lenwi fy mlwch a phinne, nag yw efe in awr i lenwi fy mhwrs, ac ai cyfrifwn in fwy trysor, a chennif fwy difyrrwch a bodlonrwydd ynddo. Ac och ni, ninny a allwn gofio er pan oeddem ni in ddieithriaid i flâs pethau nefol, gael o honom fwy difyrrwch in yr hyn y mae arnom yr awr hon gwilydd oi blegyd, nag a gowsom ni in y pethau goruchaf a godidowccaf. Am hynny tosturiwn a gweddiwn dross y rhai sydd glaf o'r unrhyw glefyd.
Eithr a ddichon y byd gwallgofus anianawl goelio, mai melusach a dedwyddach yw ymhoywi ⟨p. 207⟩mewn gwychder, a digrifwch cnawdol, a chyndderiogi yn erbyn y duwiol dros ennyd, hyd oni chymmero dialedd Duw afel arnynt, a thalu iddynt eu gwobr, nâ byw ynghariad Duw, a disgwyl yn amyneddol am gyflawniad o addewid Duw o lawenydd tragywyddol? Och pa ryw beth yw gwŷn gnawdol a dyre neu ddrygchwant cynddeiriog, a dall anghredinaeth! Yr Arglwydd a drugarhao wrth bechaduriaid Siommedig: Gwaith y Cythrael yw ceisio troi'r byd yn Bedlam, neu Le i rai gwall-gofus: ac ysywaeth, mor rhyfedd y ffynnodd ganddo! fal y medr cynnifer o ddynion gymmeryd eu trueni mwyaf yn happusrwydd iddynt, a'r unig happusrwydd yn fywyd anrhaith ei oddef! Je, a bôd yn ddig wrth bawb nad yw o'u meddwl hwynt, ac na wnelont cymmaint cyfrif o frynti a ffoledd, a chyn lleied cyfrif o Dduw a Gogoniant ac a wnânt hwythau! Megis y Pendefig yr hwn oedd yn Lloerig, neu yn Ynfyd ar amserau, a pha brŷd bynnag y byddei allan o'i hwyl, efe a dynge fod pawb ni ddywedent, fel y dywedei yntef, wedi ynfydu, ac a barei hebrwng ei holl weision ni wnaent ar ei ôl ef, i Bedlam, ac yno yr oedd yn rhaid iddynt aros megis rhai ammhwyllog, hyd oni ddelei eu Harglwydd iw bwyll drachefn allan o'i Ammwyll Felly y trinir ac y crybwyllir am weision Duw yn y bŷd, megis pe baent allan o'u hwyl, cyhyd ac y bo'r bŷd heb ei iachau o'i Anhwyl. Fel y mae'r Gŵr, felly y mae ei farn,