A95346:374
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Mi a fu'm in hwy ar hyn nag yr oeddwn in tybied y buasswn, o herwydd bod dynion in tybied ein bod ni in eu galw hwynt oddi wrth bob Gorfoledd a Llawenydd, a difyrrwch, at fuchedd surllyd, drwmbluog, bruddaidd, pan alwom arnynt i ddifrifol ddiwydrwydd am eu hiechydwriaeth. Megis ped fai Y sgafnder a ffoledd in unig gyfeillion i Ddifyrrwch, ai fôd in unig iw gael mewn pethau mabanaidd, difudd, darfodedig: Ac megis pe na bae y Dedwyddwch mwyaf a thragwyddol, in ddim o ddefnydd gwir Hyfrydwch, ac megis pe na byddei difrifwch a diwydrwydd ym matterion ein jechydwriaeth in gyfeillion i lawenydd.
Mi a fu'm yn hwy ar hyn nag yr oeddwn yn tybied y buasswn, o herwydd bod dynion yn tybied ein bod ni yn eu galw hwynt oddi wrth bob Gorfoledd a Llawenydd, a difyrrwch, at fuchedd surllyd, drwmbluog, bruddaidd, pan alwom arnynt i ddifrifol ddiwydrwydd am eu hiechydwriaeth. Megis ped fai Y sgafnder a ffoledd yn unig gyfeillion i Ddifyrrwch, ai fôd yn unig iw gael mewn pethau mabanaidd, difudd, darfodedig: Ac megis pe na bae y Dedwyddwch mwyaf a thragwyddol, yn ddim o ddefnydd gwir Hyfrydwch, ac megis pe na byddei difrifwch a diwydrwydd ym matterion ein iechydwriaeth yn gyfeillion i lawenydd.
9. Ym mhellach, tu ac at y Môdd, Duw a fin ei wasanaethu drwy'n llwyr roddi ein hunain iddo ef, in ddilyssiant, ddiderfyn, a diarbed; nid â gweddillion y cnawd, na than Ammod na byddo i chwi oddef wrth eich Crefydd ⟨p. 209⟩na bod in dlodion, neu in cael dirmyg neu ammarch gan y bŷd: And trwy ymwadu a chwi eich hunain, rhaid i chwi fwrw i lawr holl berthynas y cnawd wrth ei draed ef; rhaid i chwi gyfodi eich Cross, a dilyn Christ in diòddef i ogoniant. Rhaid i chwi ei wasaneuthu ef megis y rhai sy in hollawl in eiddo ef, ac nid in eiddoch eich hunain, ac heb ddim gennych and yr Eiddo ef, ac am hynny heb ddim iw lysu, nay gelcu, na'i gadw oddi wrtho ef, and ymfodloni i fod eich hunain a chwbl o'r eiddoch in ei ddwylo ef, ac i fôd in gadwedig drwyddo ef os byddwch bight in gadwedig. Mi a wn fôd yr ammodau nyn in ymddangos in galedion i gig a gwaed, (ac a ddylei 'r Nefoedd fôd in Goron a gwobr i'r sawl nid aethant erioed dan brofedigaeth in y bŷd in ei hachos hi?) and nid oes dim ymma ar nad yw allan o ddadl, a phob Cristion in cyfaddei ei fôd in Air Christ.