A95346:392
Tryssor ir Cymru
Tryssor ir Cymru: self llyfr in cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Brintio in Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677Brintio yn Llundain : gan Thomas Dawks ..., 1677
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Mae'n rhyfeddol meddwl, fôd gwŷr dysgedig, a boneddigion, a gwŷr in cymeryd arnynt fod ganthynt reswm a synwyr, in medru mewn llonyddwch fradychu eu heneidiau i Ddiafol ar y cyfryw achosion gwirionffôl, a gwneuthur y drwg nid oes ganddynt ddim iw ddywedyd drosto, ac esceuluso y ddyledswydd ⟨image 120⟩nid oes ganddynt ddim ychwaneg iw ddywedyd in ei herbyn, pan ydynt in gwybod y bid rhaid iddynt ei wneuthur in Awr os gwneir ef Bŷth! Y sawl, tra 'r ydynt in Cyfaddef fod Duw, a bywyd i ddyfod, a Nefoedd, ac Uffern, a rhoddi i ni y bywyd hwn in bwrpasol o ran paratoi erbyn tragywyddoldeb; tra 'r ydynt in cyfaddef fôd Duw in Gwbl doeth, a Sanctaidd, a da, a chyfiawn, ac may 'r drwg mwyaf yw 'r pechod, ac may gwir yw Gair Duw; ac er hynny a fedrant glywed arnynt ymlonyddu mewn buchedd ansanctaidd, anianawl, a diofal: A thra bônt in anrhydeddu yr Apostolion, a'r Merthyron, a'r Saint meirwon ac a ymadowsant, hwy a gasânt eu canllynwŷr a'u dilynwŷr, a'r bucheddau a buant fyw ynddo, ac a ydynt barod i wneuthur ychwaneg o ferthyron drwy eu creulonder maleusus.
Mae'n rhyfeddol meddwl, fôd gwŷr dysgedig, a boneddigion, a gwŷr yn cymeryd arnynt fod ganthynt reswm a synwyr, yn medru mewn llonyddwch fradychu eu heneidiau i Ddiafol ar y cyfryw achosion gwirionffôl, a gwneuthur y drwg nid oes ganddynt ddim iw ddywedyd drosto, ac esceuluso y ddyledswydd ⟨image 120⟩nid oes ganddynt ddim ychwaneg iw ddywedyd yn ei herbyn, pan ydynt yn gwybod y bydd rhaid iddynt ei wneuthur yn Awr os gwneir ef Bŷth! Y sawl, tra 'r ydynt yn Cyfaddef fod Duw, a bywyd i ddyfod, a Nefoedd, ac Vffern, a rhoddi i ni y bywyd hwn yn bwrpasol o ran paratoi erbyn tragywyddoldeb; tra 'r ydynt yn cyfaddef fôd Duw yn Gwbl ddoeth, a Sanctaidd, a da, a chyfiawn, ac mai 'r drwg mwyaf yw 'r pechod, ac mai gwir yw Gair Duw; ac er hynny a fedrant glywed arnynt ymlonyddu mewn buchedd ansanctaidd, anianawl, a diofal: A thra bônt yn anrhydeddu yr Apostolion, a'r Merthyron, a'r Saint meirwon ac a ymadowsant, hwy a gasânt eu canllynwŷr a'u dilynwŷr, a'r bucheddau a buant fyw ynddo, ac a ydynt barod i wneuthur ychwaneg o ferthyron drwy eu creulonder maleusus.