A95766:274
Prifannau y grefydd [sic] gristionogawl [sic]. Wedi eu crynoi gan yr Escob Usher
Prifannau y grefydd [sic] gristionogawl [sic]. Wedi eu crynoi gan yr Escob Usher.
Printiedig in Llundain : gan Alice Grover, in y flwyddyn sic, 1682Printiedig yn Llundain : gan Alice Grover, yn y flwyddyn sic, 1682
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Atteb. Yr wyfi in deal oddiwrth fod Duw in dra-daionus, ei fod ef in ddaionus i bawb, ac in digoni ewyllys pob peth byw, ac in rhoi in haelionus i bawb, ac heb ddannod. Psal. 145.9, 16. Jag. 1.5.
Atteb. Yr wyfi yn deall oddiwrth fod Duw yn dra-daionus, ei fod ef yn ddaionus i bawb, ac yn digoni ewyllys pob peth byw, ac yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod. Psal. 145.9, 16. Jag. 1.5.
Hol. Beth a ddirnedwch chwi wrth fod Duw in dra-thrugarog?
Hol. Beth a ddirnedwch chwi wrth fod Duw yn dra-thrugarog?
Atteb. Yr wyfi in deal wrth fod Duw in dra-thrugarog, fod ei drugaredd ef ar ei holl weithredoedd, ai fod ef in *raslawn, ac in hwyrfrydic i dig, gan faddeu anwiredd, a chamwedd, a phechod: Nad yw efe in ewyllysio bôd neb in golledig, and dyfod o bawb i edifeirwch; ac nad o'i fôdd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion. Psal. 145.9.
Atteb. Yr wyfi yn deall wrth fod Duw yn dra-thrugarog, fod ei drugaredd ef ar ei holl weithredoedd, ai fod ef yn *raslawn, ac yn hwyrfrydic i ddig, gan faddeu anwiredd, a chamwedd, a phechod: Nad yw efe yn ewyllysio bôd neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch; ac nad o'i fôdd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion.