A95766:467
Prifannau y grefydd [sic] gristionogawl [sic]. Wedi eu crynoi gan yr Escob Usher
Prifannau y grefydd [sic] gristionogawl [sic]. Wedi eu crynoi gan yr Escob Usher.
Printiedig in Llundain : gan Alice Grover, in y flwyddyn sic, 1682Printiedig yn Llundain : gan Alice Grover, yn y flwyddyn sic, 1682
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Hol. Pa faith oedd gweithrediadau'r yspryd Glan a roddwyd i'r eglwys in enwedig in y prif amseroedd?
Hol. Pa fath oedd gweithrediadau'r yspryd Glan a roddwyd i'r eglwys yn enwedig yn y prif amseroedd?
Atteb. In gyntaf, yr yspryd Glân yr hwn a anfonodd y Tâd in enw Christ, a ddyscodd i'r Apostolion yr holl bethau, ac a dug ar gôf iddynt yr holl bethau a ddywedasai efe iddynt. Joan. 14.26. In ail, (a)wedi dyfod did y pentecost, yr oeddynt hwy oll in gyttûn in yr un lle, a hwy oll a lanwyd â'r Yspryd Glân, a dechrevasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Yspryd iddynt ymadrodd; a hwy (b)a fedyddwyd â'r yspryd glân ac â thân, y pride (c)yr ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis ô dân, ac efe a eisteddodd ar bob un o honynt. In drydydd, pan eu dycpwyd hwy o flaen rheolwyr, yr yspryd glân a ddyscai iddynt in yr awr honno pa beth oedd raid ei ddywedyd. Marc. 13.11. Luc. 12.12. In bedwerydd, i un trwy'r yspryd y rhoddwyd ymadrodd doethineb, ac i arall ⟨p. 40⟩ymadrodd gwybodaeth, trwy yr un yspryd, ac i arall wneuthur gwrthiau, ac i arall brophwydoliaeth, ac i arall wahaniaeth ysprydoedd, ac i arall amryw dafodau, ac i arall gyfieithiad tafodau. 1 Cor. 12.8, 10.
Atteb. Yn gyntaf, yr yspryd Glân yr hwn a anfonodd y Tâd yn enw Christ, a ddyscodd i'r Apostolion yr holl bethau, ac a ddug ar gôf iddynt yr holl bethau a ddywedasai efe iddynt. Joan. 14.26. Yn ail,