B01524:135
Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fell…Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel…
Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fell y mine nynt gael trugaredd in nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.
Printiedig in Llundain : Tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul, 1659Printiedig yn Llundain : Tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul, 1659
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Oh ha-wyr! mae Trod in waith amgenach nac y mae nemmawr in ei feddwl; Nid matter bychau yw dwyn meddwl daiarol ir nefoedd, a dangos i din hygaraidd odidowgrwydd Duw, nes iddo ymserchu or faith gariad arno ef, ras galler hyth moi ddiffoddyd; dryllio y gallon am bechod a gwneuthur iddo ffo at Grist am nodded, ai ddiolchgar dderbyn ef megis bywyd ei enaid, bod a gwir dynfa a thuedd ei gallon ai fuchedd ar newidio, in gymmaint a bod din in ymworthod ar hyn yr ydoedd efe in ei gymeryd in ddedwyddwch iddo, a gosod ei ddedwyddwch lle nis gosododd erioed or blaen, ac heb fyw ir unthyw ddiben, ac heb yrrû ymmlaen yr ûnrhyw amcan in y bid, ac yr ydoedd efe cynt; I fod in fir, yr hwn sydd y'Nghrist mae efe in greadur newydd, yr hen bethau a aethant heibio; weal, gwnaethpwydd pob peth in newydd, 2 Cor. 5.17. Mae gantho ef ddealldwriaeth newydd, ac ewyllys ac ymroad o newydd, tristwch a Dymuniadau a chariad adyfyrrwch newydd, amcanion newydd, ymadroddion newydd, cwmpeini newydd (os bid possibl) ac ym arweddiad newydd. Pechod yr hwn odd beth digrif gan•ho efe or blaen, sydd in awr mor gâs ac erchyll gantho ai fod in ffo rhagddo megis rhag angau. Y bid yr hwn oedd or blaen in hawddgar in ei olwg ef, sydd in awr heb ymddangos ⟨p. 29⟩and megis gwagedd a gorthrymder: Duw yr hwn or blaen a esceuluswyd, sydd in awr in unig ddedwyddwch ei enaid ef; or blaen efe a anghofid, a phob trachwant a gyfrifid oi flaen ef and in awr efe ai osodir in nesaf ir gallon, ac y mae 'n rhaid i bôb peth roddi lle iddo ef: ar gallon sydd gwedi ymosod i wilied arno ef ai wasaneuthu; ac in ofidus ganthi pan gudio efe ei wyneb, ac nid yw un amser in i thybio ei hun in dda hebddo ef. Christ ei hun yr hwn oedd arferol o gael meddwl amdano in yscoywan, in awr yw ei ûnig obaith ai noddfa, ac arno ef y mae 'n byw megis ar ei fara beunyddol, ni fedr efe na gweddio hebddo ef, na bod chwaith in llawen hebddo ef na meddwl, na dywedyd, na byw hebddo ef. Y nefoedd ei hûn yr hon nid edrychid arni or blaen and megis cryn-beth y 'nghadw, yr hwn yr oedd efe in gobeithio y gallai wasanaethu'r y tro in well in ei herwydd nac Uffern, pan nas gallai aros dd•n hwy in y bid, a gymerir in awr am ei gartref, mangref ei unig obaith ai orphwysfa, lle caffo efe welled a charu a moliannû y Duw hwnnw ar sydd ai gallon ef gantho in barod.