B01524:143
Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fell…Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel…
Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fell y mine nynt gael trugaredd in nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.
Printiedig in Llundain : Tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul, 1659Printiedig yn Llundain : Tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul, 1659
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Coeliwch hyn, neu na choeliwch din: Coeliwch ac ufyddhewch i hyn, neu fe a ddarfu amdanoch: Weithian fell y mynnech chwi sith gredu▪ Gair Duw, ac y mynnech sith ofalu am jechydwriaeth eich eneidiau, gadewch i mi ddymuno aruoch y deisyfiad rhesymol hwn, ac yr wyfi in attolwg i chwi na naccaoch mhonof; pan el•ch odd yma, gofio ohonoch in ddioed, yr hyn a glywsoch, dechre• chwilio eich ⟨p. 37⟩calonnau in ddifrifol, a dywedyd wrth ych eich hunain, [ai felly mewn difri y mae! Ai rhaid i mi Droi neu fariw! Ai rhaid i mi fòd in ddychwedic neu'n ddenmedic? Mae'n fadws i mi gan hynny edrych in fy 'nghylch, cyn y bo rhywyr! Oh paham nad edrychaij am hyn hid in hyn? Paham y darfu i mi ar antur ffwdanu, a mined in swsachlyd tros cymmaint yo orchwyl? A oeddwn i in effro? Neu in fy Nghôf? O'r bendigedic Dduw, pa drugaredd yw na thorraist di ymaith fy einioes yr hol amser yma, cyn cael ohonof ddim gobaith siccr or bywyd tragwyddol? Gedwch iddo! Na alto Duwi mi esceuluso 'r gwaith yma ddim hwy. Pa gyflwr y mae fy enaid if ynddo? A ddychwelais i, ai nad do? A fu erioed y cyfryw gyfnewid neu waith ar fy enaid? A oleuwyd fi trwy Air ac yspryd yr Arglwydd, i ganfod atgasrwydd pechod, eisiau am Jachawdwr, cariad Christ a godidowgrwydd Duw ar Gogoniant? A ddrylliwyd ac a ddarostyngwyd fy 'nghalon om mewn am fy muchedd or blaen? A groesewais i in ddiolchgar fy Jacawdwr am Harglwydd, yr hwn ai cnygiodd ei hun ynghyd a phardwn a bywyd im henaid? A wyfi in casau fy muchedd bechaurus gynt, a gweddillion pob pechod ar sydd ynof? A wyfi in ffoi rhagddynt, megis fy 'ngelynion marwo•? A wyfi in fy rhoddi fy hûn i fynu i fuchedd o Sancteidrwydd ac ufyddod i Dduw? A Ydwyfi in ei charu ac in ymhyfrydu ynthi? A allaf i ddywedyd am wi•ionedd fy mod in farw ir bid ar Hunan cnawdol, em bod in byw i Dduw ar gogoniant ar â ⟨p. 38⟩addawodd ef? A oes gynnyf fwy prîs a phwrpas am y nefoedd, na 'r ddaiar? Ai Duw hefyd yw 'r Anwylaf ac Goruchaf in fy enaid? Mae 'n ddiammau gennyf fy môd unwaith in byw in bennaf ir bid ar cnawd, ac nad oedd Duw in cael and rhyw wasanaeth digalon, or a allau 'r bid ei hepcor, ac a oedd weddill y cnawd. A yw fy nghalon in awr wedî troy ford arall? A oes gennyf fwriad newydd, a diben newydd, a haid newydd, o anwydau sanctaidd? A sefydlais i fy 'ngobaith am calon in y nefoedd?