B01524:149
Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fell…Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel…
Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fell y mine nynt gael trugaredd in nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.
Printiedig in Llundain : Tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul, 1659Printiedig yn Llundain : Tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul, 1659
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Mae 'r Arglwydd yma in cyhoedd gyfaddau may dyma 'r hyn y mae efe in ymhoffi ynddo, bod ir annuwiol Droi a Byw. Mae 'r nefoedd gwedi ei gwneuthur mor siccr ir Dychweledic, ac yw uffern ir annychweledic. Trowch a Byw fyddwch, sydd wirionedd cyn siccred, a Throwch neu meirw a fyddwch. Nid oedd Duw rwymedic i ddarpau i ni Jachawdwr nac i agoryd i ni ddrws gobaith, nac in galw i Edifarhau ⟨p. 43⟩a Throi, pan oeddym ni unwaith wedi ein taflu ein hunain ymaith trwy bechod. And efe ai gwnaeth in rhâd i fawrhau ei drugaredd; Bechaduriaid, ni chaiff neb ohonoch achos i fined adref, a dywedyd, fy mod i in pregethu i chwi anobaith. A ydym ni arferol, o gau i fynû ddrws trugaredd in eich erbyn? O na baech heb ei gau ef i fynu in eich erbyn eich hunain! A ydym ni arferol o fynegi i chwi na thrugarha Duw ddim wrthych, er i chwi droi a bôd wedi eich Sancteiddio? Pa bryd y elywsoch chwi Bregethwr in dywedyd y faith air? Chwychwi y sawl a gyferthwch ar ol Pregethwyr in Efengyl, am chwennych eich cadw allan o uffern, ac a ddywedwch i bôd in prege•hu anobaith: Mynegwch i mi os mediwch, pa bryd y clywsoch chwi erioed undyn in ei bwyll in dywedyd, nad oes ywch obaith, er i chwi edifarhau a dychwelyd! Nage: y gwir wrthwyneb yr ydym ni beunydd in ei gyhoeddi oddiwrth yr Arglwydd; y caiff pwy bynnag a ailanwyd, ac sydd trwy ffydd ac edifeirwch in dyfod in greadur newydd, fôdd in siccr in gadmedic; A ninnau ydym cyn belled oddiwrth eich perswadio i anobeithio hyn, a'n bôd ni in eich perswadio nad amhevoch mhono, Bywyd ac nid marwolaeth yw rhan gyntaf om Cennadwri ni attoch: Ein Commissiwn ni sydd i gynnyg jechydwriaeth, jechydwriaeth ddiogel; prysur, ogoneddus, dragwyddol jechydwriaeth i bob un ohonnoch; ⟨p. 44⟩ir cardottyn tlottaf in gystal ac ir Arglwydd nwyaf, ir dihiraf ohonoch; self ir meddwon, tyngwyr, bydol-wyr, lladron, je i ddirmygwyr a goganwyr ford sanctaidd jechydwriaeth: fe a orchimymier i ni gan yr Arglwydd ein Meistr, gynnyg i chwi bardwn am gymmaint oll ac a bassiodd, os gwnewch chwi bellach or diwedd and dychwelyd a byw. Fe orch'yny nnir i ni attolygu ac ymbil arnoch am dderbyn y cynnyg a Dychwelyd; ac i fynegi i chwi pa baratóad a wnaethbwyd gan Grist; pa drugaredd sy'n aros amdanoch; pa amynedd sy'n diswil wrthych; pa fwriadau o garedigrwydd sydd gan Duw tuac attoch; Ac mor ddedwydd, mor siccr ac anrhaethawl Ddewydd y gellwch chwi fôd os mynnwch: