B01524:324
Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fell…Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel…
Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fell y mine nynt gael trugaredd in nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.
Printiedig in Llundain : Tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul, 1659Printiedig yn Llundain : Tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul, 1659
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Defnydd.
Oddiwrth yr hyn a ddywedpwyd chw i â ellwch ddyscu ymmhellach y pethau hyn sy 'in canlyn.
ODdiwrth yr hyn a ddywedpwyd chw i â ellwch ddyscu ymmhellach y pethau hyn sy 'yn canlyn.
1. Oddi yma y gellwch welled, nid pa gabled ac annuwioldeb yw bwrw 'r bay o ddinistr dynion a'r Dduw, and hefyd mor anaddas yw ir gweision diffaith roddi y fâth beth in erbyn eu gwneuthurwr; Maent in croch lefain ar Dduw, ac in dywedyd, nad yw efe in rhoddi gràs iddynt. a bôd ei fygythion in dôst, ac na atto Duw bôd pawb in ddamnedic ar ni throesant ac na sancteiddiwyd? Ac hwy a dybiant may mesur called yw cael o fir bechod ddidrangc ddiodefaint; Ac os denmir hwynt (meddant) ni allant wrtho: trâ bônt in y cyfamser in brysur ynghylch eu dinistr eu hunain, self in torfynyglu eu heneidiau eu hunain, ac ni fynnant moi perswadio i attal eu dwylaw. Tybîed y maent y byddei Dduw in greulon pettau ef in eu damnio hwynt: ac etto maent mor greulon wrthynt eu hunain ac y rhedant i dân Uffern, a Duw wedi mynegi iddynt ei fod ef ychydic oi blaen hwynt, ac ni lettyl ymbiliau mhonynt, na bygythion chwaith na dim ar a aller ei ddywedyd. Nyni ai gwelwn hwynt agos wedi darfod amdanynt: Mae eu bucheddau diofal, bydol cnawdol in minegi i ni eu bod hwynt tan allu y Cythrael: Nyni â wyddom os meirw â wnant cyn iddynt ddychwelyd, na ddichon yr holl fyd moi hachub: a chan wybod ansiccrwydd eu heinioes, yr ydym ni beunydd in ofni rhag iddynt ddiferu ir tân: ac am hynny yr ydym ni in dymûno arnynt dosturio wrth eu heneidiau eu hunain ag na ddinistriont ⟨p. 143⟩mhonynt eu hunain tra bo trugaredd in agos; a nhwythau ni wrandawant mhonom: Yr ydym ni in dymuno arnynt daflu ymaith eu pechod. a dywad at Grist in ddiymdro, a dangos ychydic drugaredd iddynt eu hunain; eithr ni ddangosant ronyn: Ac etto hwy a dybiant may rhaid i Dduw fôd in greulon os condemnai efe hwynt. Oh bechaduriaid trueni gorphwyllog! Nid Duw sydd greulon wrthych; Chwchwi ydych greulon wrthych eich hunain; Mynegwyd i chwi may rhaid i chwi Droi neu Losci, ac er hynny ni Throw'ch. Mynegwyd i chwi os mynnwch chwi gadw eich pechodau y cewch gadw melltith Dduw gyda hwynt; ac er hynny chwi ai cedwch. Mynegwyd i chwi, nad oes un ford i Happusrwydd and trwy Sancteiddrwydd; ac er hyn ni fynnwch fod in Sanctaidd. Beth ychwaneg a fynnech chwi i Dduw ddywedyd wrthych? Beth a fynnech chwi iddo wneuthur ai drugaredd? Mae ef in ei chynnyg i chwi ac ni fynnwch mhoni. Yr ydych chwi y ngheuffos pechod a thrueni yntau a estynnau ei law ich cynnorthwyo allan, a chwithau a wrthodwch ei gymmorth.