B01524:356
Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fell…Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel…
Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fell y mine nynt gael trugaredd in nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.
Printiedig in Llundain : Tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul, 1659Printiedig yn Llundain : Tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul, 1659
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Bellach mi a ddaethym i gloi ar hyn o waith; mae'n ofid ar fy'nghalon feddwl pa fodd i'ch gadawaf; Rhag ir cnawd eich wyllo gwedi hyn ei gyd, ac i'r bid ar Cythraul e•ch dal i gysgu, ac i minneu eich gada•l fell ich cefais, nes eich deffro in Uffer•! E• i mi ofn• hyn, o ran fy 'ngofal am eich eneidiau […]; am fy môd in adnabod ystyfnig wydd calon gn•wd•l, etto mi a allaf ddywedyd gydâ 'r prophwyd Jeremi. 17.16 Ni ddymunais y did blin, Arglwydd, ti ai gwyddost. Ni ddymunais i gydac Jaco ac Joan a• i dân ddyfod or nefoedd i ddifa y sawl â wrthodasant Jesus G••st, Luc. 9.54. Eithr ar ragflaenu y tân tragywyddol y bû'm i trwy gydol hyn o amser yr gwneu hur fy'ngoreu: Ac ôch na buasei in waith afraid […] Nas ga•lasei Dduw a chydwybod fôd mor ewyllysgar i adael i mi seibiant oddiwrth hyn o waith ac in edrasei ray ohonoch chwi fod. Garedigion anwyl, mae mor drwm gennyf fod i chwi orwedd mewn tân tragywyddol, a bôd wedi eich cae allau or nefoedd, os yw in bossibl rhagflaenu hynny, ac y gofynwyf ûnwaith etto, Beth bellach sy'yn eich bryd? Ai Troi â wnewch ynteu Meirw? Yr ydwyfi in edrych arnoch megis Physygwr ar ûn clâf mewn anwyl enbydus, ⟨p. 168⟩ac in dywedyd wrtho [Er eich bôd wedi mined ymmhell, cymmerwch y gyfaredd hon ac ymgedwch and rhag yr ychydic bethau hyn y rhai ydynt in niweidiol i chwi, ac mi â anturiaf wrantu eich hoedl; Eithr oni wnewch chwi hyn, nid ydych and gwr marw] Beth a dybygeth chwi am y cyfryw din. oni ddichon y Physygwr ar holl garedigion sydd gantho moi berswadio i gymmeryd ûn physygwriaeth i achub ei hoedl, neu i ymgadw rhag un neu ddau o betheu gwenwynig ai lladent ef? Dyma eich cyflwr chwithau. Er pelled yr aethoch mewn pechod, gwnewch cymmaînt a Dychwelyd a dyfod at Grist, a chymmeryd ei gyfareddion, a'ch eneidiau â gant fyw. Chwy ewch i fynu eich pechodau marwol trwy edifeirwch, ac na ddychwelwch mwyach at eich chwydion gwenwynllyd a chwi a ddenwch or goreu. And etto petteu eich cyrph i ni i ymdrin a hwynt, ni a allem wybod mewn rhan beth iw wneuthur i chwi pe on i chwi na chydsynniech ddim. Fe ellid eich dal neu eich rhwymo, tra byddid in tywallt y physygwriaeth i lawr ar hid eich gyddfau, a phethau niwediol a ellid eu cadw oddiwrthych. Eithr ynghylch eich eneidiau ni ddichon hynny mor bod. Nis gallwn ni mo'ch Troi in erbyn eich ewyllys. Ni ddygir ynfydion ir nefoedd mewn llyffetheiriau.