B01524:82
Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fell…Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel…
Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fell y mine nynt gael trugaredd in nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.Galwad ir annychweledig idroi a byw Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.
Printiedig in Llundain : Tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul, 1659Printiedig yn Llundain : Tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul, 1659
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ezec. 33.11. Dywed wrthynt, fell may byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, nid ymhoffaf ym marwolaeth yr anuwiol, onid troy or annuwiol oddiwrth ei ford, a byw: Dychwelwch, Dychwelwch oddi wrth eich ffyrdd drygionus, Canys (ty Israel) paham y byddwch feirw?
Ezec. 33.11. Dywed wrthynt, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, nid ymhoffaf ym marwolaeth yr anuwiol, onid troi or annuwiol oddiwrth ei ffordd, a byw: Dychwelwch, Dychwelwch oddi wrth eich ffyrdd drygionus, Canys (ty Israel) paham y byddwch feirw?
FE fu 'n sin ryfeddod gan lawyer din cystal a chenny finnau, ddarllain in yr scrythyr lân, leied a fydd cadwedig, ac y bid y rhan fwyaf, je or rhai a Alwyd wedi ei ca• in dragwyddol allan o deyrnas, nef, ac y penydir hwynt gyda 'r Cythreuliaid mewn ta• tragwyddol. Anffyddlonniaid ni chredant hyn ⟨p. 2⟩pan ei darllénnont, ac am hynny rhaid iddynt ei deimlo. Y rhai ai c•edant a annogir i lefain allan gyda Phaul, Rhuf. 11.33: O ddỿfnder golud Doethineb a gwỿbodaeth Duw: mor anchwiliadwy yw ei farnau ef! ai ffyrdd mor anol•heinadwy ydynt! And mae naturiaeth ei hun in dyscú i ni roddi bay gweithredoedd drwg ar y gweithredwyr, ac am hynny pan ganfyddom ddim echryslon gwedi ei wneuthu•; mae cyneddfen o gyfiownder in ein hannog i ymofyn am y sawl ai gwnaeth fell y bo i ddrwg y weithred dd•chwelyd in ddrwg o wradwydd ar yr Awdur. Pe gwelem wr gwedi ei lâdd ai ddryilio ar y ford, ni a ymofynnen in y m•n, O pwy a wnaeth y weithred greulon ymma? Pettau d•êf trwy wilt-naws gwedi ei rhoi ar dân, chwi a ofynnech, Pa ddiffeithwr brwnt a wnaeth hyn? Felly pan ddarllennom ni y bid y rhan fwyaf in bentewvnion ûffern in dragywydd, mae in anghenrhaid i ni synnied rhyngom a ni ein hunain, pa fodd y digwydd i hyn fod? Ac oblegyd pwy y mae? Pwy sydd mor greulon a bod in achos or cyfryw beth a hwn? Ac ni chawn ni gyfarfod and ychydig a gymmero yr evogrwydd arno. Pawb in ddiau a addefant may Satan yw 'r achos And nid yw hynny in dattod y pettrusder, Cans nid efe yw 'r prif-achos. Nid yw efe in hyrddio dynion i bechu, and i tentio iddo, ai gadael iw hewyllys eu hunain beth a wnelont ai ei wneuthur ai peidio. Nid yw ef in llusgo dynion ir dafarn, ac o drais in agor eu safnau, ac in tywallt y ddiod i fewn; Nid yw