B03487:1113
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Gwneuthur neb ryw ddelw er mwyn addoliad grefyddol. Trosedd yw ini ddychymyg tebygoliaeth i Dduw, neu geisio amlygu ei nature ef drwy ryw ddelw oddiallan.
1. Gwneuthur neb ryw ddelw er mwyn addoliad grefyddol. Trosedd yw ini ddychymyg tebygoliaeth i Dduw, neu geisio amlygu ei natur ef drwy ryw ddelw oddiallan.
2. Gwaherddir yma addoli eulynnod in y geiriau hyn, nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt. Self na ddod iddynt na gwasanaeth nac addoliad grefyddol, nac oddifewn nac oddiallan, yr hyn yw eulunaddoliad.
2. Gwaherddir yma addoli eulynnod yn y geiriau hyn, nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt. Sef na ddod iddynt na gwasanaeth nac addoliad grefyddol, nac oddifewn nac oddiallan, yr hyn yw eulunaddoliad.
3. Ewyllys-addoliad a waherddir yma: ni wasanaetha ini wrth orchymyn neu ddychymyg dŷn addoli 'r gwir Dduw mewn ford amgenach nac yr ordeiniodd efe in ei air: na gwneuthur peth nis gorchymmynnodd Duw, in rhan angenrheidiol o'i addoliad ef wrth ein ewyllys ein hunain.
3. Ewyllys-addoliad a waherddir yma: ni wasanaetha ini wrth orchymyn neu ddychymyg dŷn addoli 'r gwir Dduw mewn ffordd amgenach nac yr ordeiniodd efe yn ei air: na gwneuthur peth nis gorchymmynnodd Duw, yn rhan angenrheidiol o'i addoliad ef wrth ein ewyllys ein hunain.