B03487:1119
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In drydedd, y mae efe in eiddigus ynghylch ei addoliad, a hynny a fynega 'r geiriau hyn, wyf Dduw eiddigus. Megis ac nas gall gwr priod oddef aflendid ac anffyddlondeb ei wraig, felly nis gall yr Arglwydd oddef anffyddlondeb ei bobl pan droffont at gau dduwiau, eithr caseiff eulunaddoliaeth mewn eglwys, in gymaint ac y casâ gwr ordineb ei wraig.
Yn drydedd, y mae efe yn eiddigus ynghylch ei addoliad, a hynny a fynega 'r geiriau hyn, wyf Dduw eiddigus. Megis ac nas gall gwr priod oddef aflendid ac anffyddlondeb ei wraig, felly nis gall yr Arglwydd oddef anffyddlondeb ei bobl pan droffont at gau dduwiau, eithr caseiff eulunaddoliaeth mewn eglwys, yn gymaint ac y casâ gwr ordineb ei wraig.
Ac y mae 'r Arglwydd in amlygu ei offal ynghylch ei addoliad ym mhellach,
Ac y mae 'r Arglwydd yn amlygu ei ofal ynghylch ei addoliad ym mhellach,
1. Wrth gospi 'r sawl a dorrant y gorchymmyn hwn, a hynny hid y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth. A thoster Duw in hyn ydoedd er mwyn attal rhieni oddiwrth eulunaddoliaeth a chrefydd ddychymygedic, o ran y digwyddai iddynt wrth hynny dynnu digofaint arnynt eu hunain, ac ar eu heppil hefyd, os rhodient in ffyrdd eu tadau, a dilyn eu heulunaddoliaeth hwynt, yr hyn y byddent mewn perigl o'i wneuthur wrth eu esampl hwy: Ac onidê nid ydoedd Duw arferol o gospi plant am feiau eu rhieni.
1. Wrth gospi 'r sawl a dorrant y gorchymmyn hwn, a hynny hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth. A thoster Duw yn hyn ydoedd er mwyn attal rhieni oddiwrth eulunaddoliaeth a chrefydd ddychymygedic, o ran y digwyddai iddynt wrth hynny dynnu digofaint arnynt eu hunain, ac ar eu heppil hefyd, os rhodient yn ffyrdd eu tadau, a dilyn eu heulunaddoliaeth hwynt, yr hyn y byddent mewn perigl o'i wneuthur wrth eu esampl hwy: Ac onidê nid ydoedd Duw arferol o gospi plant am feiau eu rhieni.