B03487:1157
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
GWYDDORION Y Grefydd Gristianogol, Wedi eu hegluro i'r gwannaf eu d… › Commentary 63
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Nid digon i ni ymattal rhag pethau sydd in ffiaidd echryslon, eithr os goddefwn i'n calonnau redeg ar bethau bydol a fo cyfreithlon ar ddyddiau eraill, haloga hynny 'r did hwn. Am hynny pan welom ein meddyliau in rhedeg ar ol achosion bydol, attaliwn hwynt drwy gofio fod y seithfed did in Sabbath ir Arglwydd ein Duw, ac iw gadw in Sanctaidd.
1. Nid digon i ni ymattal rhag pethau sydd yn ffiaidd echryslon, eithr os goddefwn i'n calonnau redeg ar bethau bydol a fo cyfreithlon ar ddyddiau eraill, haloga hynny 'r dydd hwn. Am hynny pan welom ein meddyliau yn rhedeg ar ol achosion bydol, attaliwn hwynt drwy gofio fod y seithfed dydd yn Sabboth ir Arglwydd ein Duw, ac iw gadw yn Sanctaidd.
2. Halogir y Sabbath drwy roddi rhydddid i'n tafodau i adrodd pethau bydol diflas, ac a fo anghyttunol ag adeiladaeth. Y cyfryw ymddiddanion fell dyfroedd bruntion sy 'n diffodd yr ychydig gynhesrwydd a gaffo rhai in ordinhâdau Duw. Arwydd yw nad ydym ni in yr Yspryd ar did yr Arglwydd, pan from cyn gynted in troy at y cnawd.
2. Halogir y Sabboth drwy roddi rhydddid i'n tafodau i adrodd pethau bydol diflas, ac a fo anghyttunol ag adeiladaeth. Y cyfryw ymddiddanion fel dyfroedd bruntion sy 'n diffodd yr ychydig gynhesrwydd a gaffo rhai yn ordinhâdau Duw. Arwydd yw nad ydym ni yn yr Yspryd ar ddydd yr Arglwydd, pan fom cyn gynted yn troi at y cnawd.
3. Gwneuthur rhyw orchwylion afreidiol ar y did Sabbath sydd in ei halogi ef. Am hynny ni a gawn y cyfryw in waharddedig, Isaiah. 58.13. Heb wneuthur dy ffyrdd dy hun, heb geisio dy ewyllys dy hun, na dywedyd dy eiriau dy hun. Ni wasanaetha na chwarae na gweithio ar y Sabbath, eithr ei dreulio in gwneuthur dyledswyddau duwioldeb a chariad.