B03487:1204
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Och mor gyffredin yw 'r drygioni hwn ym mysc hên ac jevangc!
Och mor gyffredin yw 'r drygioni hwn ym mysc hên ac ieuangc!
Disc plant ddywedyd celwydd cyn gynted ac y medront siarad: a chwedi ymgynnesino ag ef in eu jevengctid, ni fedrant beidio ag ef in eu henaint. O na bay i bawb ei ochelyd megis pechod diafolaidd.
Dysc plant ddywedyd celwydd cyn gynted ac y medront siarad: a chwedi ymgynnesino ag ef yn eu ieuengctid, ni fedrant beidio ag ef yn eu henaint. O na bai i bawb ei ochelyd megis pechod diafolaidd.
Rhieni, cymerwch chwi offal rhag dywedyd celwydd, a rhoddi felly Esampl ddrwg i'ch plant, ac na byddwch debyg ir cythrael, in dadau celwyddau, Gochelwch ef ynoch eich hunain, a chosbwch ef in yr eiddoch in ddifaddeu. O blant, yr ydych in rhy dueddol i arfer celwydd. Ym mha fai bynnag i'ch caffer, na chaer monoch ar y celwydd. Canys plant y cythrael yw y rhai celwyddog.
Rhieni, cymerwch chwi ofal rhag dywedyd celwydd, a rhoddi felly Esampl ddrwg i'ch plant, ac na byddwch debyg ir cythrael, yn dadau celwyddau, Gochelwch ef ynoch eich hunain, a chosbwch ef yn yr eiddoch yn ddifaddeu. O blant, yr ydych yn rhy dueddol i arfer celwydd. Ym mha fai bynnag i'ch caffer, na chaer monoch ar y celwydd. Canys plant y cythrael yw y rhai celwyddog.