B03487:1218
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y pechodau a waherddir in y Gorchymyn hwn yw y rhai a galyn.
Y pechodau a waherddir yn y Gorchymyn hwn yw y rhai a galyn.
1. Anfodlonrwydd i'n cyflwr ein hunain. Yr hyn a'n gwnâ ni in ddiclon wrth ragluniaeth Dduw, a'i drefnid. A hynny a ddichon gyffroi Duw in gyfiawn i'n herbyn ni, a pheri iddo ef ein dinoethi ni o'r holl drugareddau yr ydym ni drwy ei ddaioni ef in ⟨p. 240⟩[…] ⟨p. 241⟩[…] ⟨p. 242⟩eu mwynhau wrth ein rhaid.
1. Anfodlonrwydd i'n cyflwr ein hunain. Yr hyn a'n gwnâ ni yn ddiclon wrth ragluniaeth Dduw, a'i drefnid. A hynny a ddichon gyffroi Duw yn gyfiawn i'n herbyn ni, a pheri iddo ef ein dinoethi ni o'r holl drugareddau yr ydym ni drwy ei ddaioni ef yn ⟨p. 240⟩〈…〉 ⟨p. 241⟩〈…〉 ⟨p. 242⟩eu mwynhau wrth ein rhaid.
2. Cenfigennu a thristâu wrth lwyddiant ein cymydog. Y mae 'r gorchymyn hwn in gofyn cariad tuag at ein cymmydog, a bod ini ymhyfrydu in ei gyflwr llwyddianus ef: ynteu torriad amlwg o honaw ydyw ini genfigennu wrth ei lwyddiant ef, a gofidio wrth welled ei ddedwddwch ef.