B03487:1334
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Yr ymadrodd hwn, eiddot ti yw 'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant in oes oesoedd, sydd in rhoddi ini batrwm i'n cyfarwyddo i roi moliant a diolch, gan gydnabod Mawrhydi, a gallu, a gogoniant, a thragwyddoldeb Duw.
Yr ymadrodd hwn, eiddot ti yw 'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant yn oes oesoedd, sydd yn rhoddi ini batrwm i'n cyfarwyddo i roi moliant a diolch, gan gydnabod Mawrhydi, a gallu, a gogoniant, a thragwyddoldeb Duw.
Yma y dyscir ni i glodfori ac i foliannu Duw wrth weddio atto ef. Mawl sydd ddyledswydd mwy cymeradwy gan Dduw na phoeth-offrymmau, ac aberthau defodol, Psal. 50.13. ac megis y mae ef in hyfryd gan Dduw, felly hefyd y mae ef in llesol i ninnau, wrth fod in hôff gan yr Arglwydd haelionus roddi i bobl ddiolchgar.
Yma y dyscir ni i glodfori ac i foliannu Duw wrth weddio atto ef. Mawl sydd ddyledswydd mwy cymeradwy gan Dduw na phoeth-offrymmau, ac aberthau defodol, Psal. 50.13. ac megis y mae ef yn hyfryd gan Dduw, felly hefyd y mae ef yn llesol i ninnau, wrth fod yn hôff gan yr Arglwydd haelionus roddi i bobl ddiolchgar.
Diwedd y weddi sydd in y gair hwn Amen. Drwy 'r hyn y mynegir ein cydsynniad, a'n dymuniad am gael yr hyn a weddier amdano, a'n hither y bid i Dduw dderbyn ein deisyfiadau a'n mawl. Canys y mae Amen in arwyddoccau gwirionedd, a chymaint ag felly bydded.
Diwedd y weddi sydd yn y gair hwn Amen. Drwy 'r hyn y mynegir ein cydsynniad, a'n dymuniad am gael yr hyn a weddier amdano, a'n hyder y bydd i Dduw dderbyn ein deisyfiadau a'n mawl. Canys y mae Amen yn arwyddoccau gwirionedd, a chymaint ag felly bydded.