B03487:134
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In gyntaf tuedda at ogoniant Duw, gan fod felly gydnabyddiaeth o'r rhagor y sydd rhyngddo ef a'r gau dduwiau oll. Jer. 10.6. Gwir yw fod priodoliaethau anghyfrannadwy Duw, a'i weithredoedd duwiol ef in ei ddosparthu ef oddiwrth bob peth arall. Canys nid oes neb in y nefoedd nac ar y ddaiar, ⟨p. 22⟩in Dragywyddol, in Oll-Allueg, in Bresennol ym mhob man, in Gwybod pob peth, in Greawdwr y cwbl oll, and Duw in unic: etto tybiodd yr eulun-addolwyr iw gau dduwiau hwynt fod felly. And ni ddaeth erioed i gallon un eulun-addolwr i dybied ei Dduw in un a thri. Dyma y fâth ddirgelwch, ac nas gall eulun debygu i Jehofah ynddo.
Yn gyntaf tuedda at ogoniant Duw, gan fod felly gydnabyddiaeth o'r rhagor y sydd rhyngddo ef a'r gau dduwiau oll. Jer. 10.6. Gwir yw fod priodoliaethau anghyfrannadwy Duw, a'i weithredoedd duwiol ef yn ei ddosparthu ef oddiwrth bob peth arall. Canys nid oes neb yn y nefoedd nac ar y ddaiar, ⟨p. 22⟩yn Dragywyddol, yn Oll-Allueg, yn Bresennol ym mhob man, yn Gwybod pob peth, yn Greawdwr y cwbl oll, ond Duw yn unic: etto tybiodd yr eulun-addolwyr iw gau dduwiau hwynt fod felly. Ond ni ddaeth erioed i galon un eulun-addolwr i dybied ei Dduw yn un a thri. Dyma y fâth ddirgelwch, ac nas gall eulun debygu i Jehofah ynddo.
In ail, megis y tueddu gwybodaeth am ddirgelwch y Drindod at ogoniant Duw, felly hefyd i'n bud ninnau: Canys,
Yn ail, megis y tueddu gwybodaeth am ddirgelwch y Drindod at ogoniant Duw, felly hefyd i'n budd ninnau: Canys,