2. I helaethu ein calonnau ni mewn diolchgarwch ir Arglwydd. Nid digon ini ystyried gweithredoedd Duw gydâ rhyfeddu, and rhaid ini roddi iddo ef ogoniant ei ddoethineb, ai allu, ai ddaioni, a amlygir ynddynt, Psal. 136.1.5, 6, 7, 8. 9. Clodforwch yr Arglwydd yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb; yr hwn a estynnodd y ddaiar oddiar y dyfroedd, yr hwn a wnaeth olevadau mawrion, yr haul i lywodraethu 'r did, y llevad a'r sêr i lywodraethu 'r nôs. Er i bechod frychu lawyer ar weithredoedd Duw, etto y mae ei ogoniant ef un eglur ynddynt. A phed ystyriem ni in ddifrifol amryw rywogaethau 'r creaduriaid a'u tegwch, ac mor fuddiol ydynt i ni, nid allem na ryfeddem Ddoethineb, a Daioni, a Gallu Duw ynddynt, ac na thalem ddiolch iddo ef am danynt.
2. I helaethu ein calonnau ni mewn diolchgarwch ir Arglwydd. Nid digon ini ystyried gweithredoedd Duw gydâ rhyfeddu, ond rhaid ini roddi iddo ef ogoniant ei ddoethineb, ai allu, ai ddaioni, a amlygir ynddynt, Psal. 136.1.5, 6, 7, 8. 9. Clodforwch yr Arglwydd yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb; yr hwn a estynnodd y ddaiar oddiar y dyfroedd, yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion, yr haul i lywodraethu 'r dydd, y lleuad a'r sêr i lywodraethu 'r nôs. Er i bechod frychu llawer ar weithredoedd Duw, etto y mae ei ogoniant ef vn eglur ynddynt. A phed ystyriem ni yn ddifrifol amryw rywogaethau 'r creaduriaid a'u tegwch, ac mor fuddiol ydynt i ni, nid allem na ryfeddem Ddoethineb, a Daioni, a Gallu Duw ynddynt, ac na thalem ddiolch iddo ef am danynt.