B03487:202
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gwnaiff hefyd ir holl ddigwyddiadau gwrthwynebus gydweithio i gyflawni ei fwriad ef. Y mae esamplau rhyfeddol am hynny ynghylch Joseph, ymodd y dugwyd ef ir Aipht, a'r hyn a ddigwyddodd iddo yno: a'r môdd y gwaredwyd Israel o'r Aipht.
Y mae Rhagluniaeth Duw hefyd in alluog: Nis gellir ei gwrthwynebu. Medd ef, Isaiah 43.13. Gwnaf a phwy a'i lluddia. Y mae Duw in rhy doeth ir cyfrwysaf, ac in rhy drêch i'r cadarnaf.
Y mae Rhagluniaeth Duw hefyd yn alluog: Nis gellir ei gwrthwynebu. Medd ef, Esay 43.13. Gwnaf a phwy a'i lluddia. Y mae Duw yn rhy ddoeth ir cyfrwysaf, ac yn rhy drêch i'r cadarnaf.
Cymmwys. 1. Craffwn ar ragluniaethau […] Psal. 107.43. Y neb sydd doeth ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau 'r Arglwydd. Gosodwn ein meddyliau ar weithredoedd Rhagluniaeth: a cheisiwn deal law Dduw in yr hyn a ddigwyddo i ni, ac i eraill, a dywedwn, Hyn yw gwaith yr Arglwydd.
Cymmwys. 1. Craffwn ar ragluniaethau 〈…〉 Psal. 107.43. Y neb sydd ddoeth ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau 'r Arglwydd. Gosodwn ein meddyliau ar weithredoedd Rhagluniaeth: a cheisiwn ddeall llaw Dduw yn yr hyn a ddigwyddo i ni, ac i eraill, a dywedwn, Hyn yw gwaith yr Arglwydd.