B03487:203
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y mae Rhagluniaeth Duw hefyd in alluog: Nis gellir ei gwrthwynebu. Medd ef, Isaiah 43.13. Gwnaf a phwy a'i lluddia. Y mae Duw in rhy doeth ir cyfrwysaf, ac in rhy drêch i'r cadarnaf.
Y mae Rhagluniaeth Duw hefyd yn alluog: Nis gellir ei gwrthwynebu. Medd ef, Esay 43.13. Gwnaf a phwy a'i lluddia. Y mae Duw yn rhy ddoeth ir cyfrwysaf, ac yn rhy drêch i'r cadarnaf.
Cymmwys. 1. Craffwn ar ragluniaethau […] Psal. 107.43. Y neb sydd doeth ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau 'r Arglwydd. Gosodwn ein meddyliau ar weithredoedd Rhagluniaeth: a cheisiwn deal law Dduw in yr hyn a ddigwyddo i ni, ac i eraill, a dywedwn, Hyn yw gwaith yr Arglwydd.
Cymmwys. 1. Craffwn ar ragluniaethau 〈…〉 Psal. 107.43. Y neb sydd ddoeth ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau 'r Arglwydd. Gosodwn ein meddyliau ar weithredoedd Rhagluniaeth: a cheisiwn ddeall llaw Dduw yn yr hyn a ddigwyddo i ni, ac i eraill, a dywedwn, Hyn yw gwaith yr Arglwydd.
2. Ail-cofiwn ragluniaethau Duw in fynych, in enwedig mewn cyfyngderau a pheryglon. Yr hyn a nertha eich ffydd in odidog in y profedigaethau mwyaf. Wrth hyn yr ymgadarnhâodd Dafydd i ymladd â Goliath, 1 Sam. 17.37. Dywedodd Dafydd, yr Arglwydd yr hwn a'm hachubodd i o grafango y llew, ac o balf yr arth, efe a'm hachub i o law y Philistiad hwn. Je cafodd gymaint o gysur wrth gofio Rhagluniaethau o'r blaen, oni ymrodd ef i fod in astud in y cyfryw fyfyrfod.