B03487:204
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cymmwys. 1. Craffwn ar ragluniaethau […] Psal. 107.43. Y neb sydd doeth ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau 'r Arglwydd. Gosodwn ein meddyliau ar weithredoedd Rhagluniaeth: a cheisiwn deal law Dduw in yr hyn a ddigwyddo i ni, ac i eraill, a dywedwn, Hyn yw gwaith yr Arglwydd.
Cymmwys. 1. Craffwn ar ragluniaethau 〈…〉 Psal. 107.43. Y neb sydd ddoeth ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau 'r Arglwydd. Gosodwn ein meddyliau ar weithredoedd Rhagluniaeth: a cheisiwn ddeall llaw Dduw yn yr hyn a ddigwyddo i ni, ac i eraill, a dywedwn, Hyn yw gwaith yr Arglwydd.
2. Ail-cofiwn ragluniaethau Duw in fynych, in enwedig mewn cyfyngderau a pheryglon. Yr hyn a nertha eich ffydd in odidog in y profedigaethau mwyaf. Wrth hyn yr ymgadarnhâodd Dafydd i ymladd â Goliath, 1 Sam. 17.37. Dywedodd Dafydd, yr Arglwydd yr hwn a'm hachubodd i o grafango y llew, ac o balf yr arth, efe a'm hachub i o law y Philistiad hwn. Je cafodd gymaint o gysur wrth gofio Rhagluniaethau o'r blaen, oni ymrodd ef i fod in astud in y cyfryw fyfyrfod. Psal. 77.11.12. Medd ef, Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd, je cofiaf dy wrthiau gynt. Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd ⟨p. 48⟩y chwedlevaf. O na baem ni in fynych in ymarfer â'r gorchwyl ysprydol hwn in dwyn ar gòf ini ein hunain yr hyn a amlygwyd ini o drefniad Duw tuag atom ni; gan ddirnad tymoreidd-dra trugareddau Duw a dderbyniasom ni, a'i offal ef am danom ni. Ina o mor gyssurus a fyddai ein bywyd ni, a lleied y brawycheu peryglon ni!
2. Ail-cofiwn ragluniaethau Duw yn fynych, yn enwedig mewn cyfyngderau a pheryglon. Yr hyn a nertha eich ffydd yn odidog yn y profedigaethau mwyaf. Wrth hyn yr ymgadarnhâodd Dafydd i ymladd â Goliah,