B03487:205
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Ail-cofiwn ragluniaethau Duw in fynych, in enwedig mewn cyfyngderau a pheryglon. Yr hyn a nertha eich ffydd in odidog in y profedigaethau mwyaf. Wrth hyn yr ymgadarnhâodd Dafydd i ymladd â Goliath, 1 Sam. 17.37. Dywedodd Dafydd, yr Arglwydd yr hwn a'm hachubodd i o grafango y llew, ac o balf yr arth, efe a'm hachub i o law y Philistiad hwn. Je cafodd gymaint o gysur wrth gofio Rhagluniaethau o'r blaen, oni ymrodd ef i fod in astud in y cyfryw fyfyrfod. Psal. 77.11.12. Medd ef, Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd, je cofiaf dy wrthiau gynt. Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd ⟨p. 48⟩y chwedlevaf. O na baem ni in fynych in ymarfer â'r gorchwyl ysprydol hwn in dwyn ar gòf ini ein hunain yr hyn a amlygwyd ini o drefniad Duw tuag atom ni; gan ddirnad tymoreidd-dra trugareddau Duw a dderbyniasom ni, a'i offal ef am danom ni. Ina o mor gyssurus a fyddai ein bywyd ni, a lleied y brawycheu peryglon ni!
2. Ail-cofiwn ragluniaethau Duw yn fynych, yn enwedig mewn cyfyngderau a pheryglon. Yr hyn a nertha eich ffydd yn odidog yn y profedigaethau mwyaf. Wrth hyn yr ymgadarnhâodd Dafydd i ymladd â Goliah, 1 Sam. 17.37. Dywedodd Dafydd, yr Arglwydd yr hwn a'm hachubodd i o grafango y llew, ac o balf yr arth, efe a'm hachub i o law y Philistiad hwn. Je cafodd gymaint o gysur wrth gofio Rhagluniaethau o'r blaen, oni ymrodd ef i fod yn astud yn y cyfryw fyfyrfod. Psal. 77.11.12. Medd ef, Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd, ie cofiaf dy wrthiau gynt. Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd ⟨p. 48⟩y chwedleuaf. O na baem ni yn fynych yn ymarfer â'r gorchwyl ysprydol hwn yn dwyn ar gòf ini ein hunain yr hyn a amlygwyd ini o drefniad Duw tuag attom ni; gan ddirnad tymoreidd-dra trugareddau Duw a dderbyniasom ni, a'i ofal ef am danom ni. Yna o mor gyssurus a fyddai ein bywyd ni, a lleied y brawycheu peryglon ni!