B03487:245
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cymmwys. I. Molianwn Addfwynder Duw in mined mewn cyfammod â'i greaduriaid. Mawr oedd ei ddaioni, ac ef in Greawdwr nefoedd a daiar, fined mewn cyfammod â din ydoedd lŵch: ac addaw iddo ddedwyddwch os ufyddhae iw orchymynion ef. Gallasai Duw wrth ei Fawrhydi a'i arglwyddiaeth, orchymyn y peth a fynnasai i ddŷn, heb ymrwymo mewn addewid iddo, gan ei fod mor rid oddiwrth ei greaduriaid, ac yw 'r crochenydd oddiwrth y telpyn pride. Etto rhyngodd bodd iddo ef o'i râd gariad, addaw gwobr haelionus ir ufydd-dod oedd ddyledus iddo ei chael, ped fuasai heb wneuthur rhwymedigaeth ar ei ran ei hun.
Cymmwys. I. Molianwn Addfwynder Duw yn myned mewn cyfammod â'i greaduriaid. Mawr oedd ei ddaioni, ac ef yn Greawdwr nefoedd a daiar, fyned mewn cyfammod â dyn ydoedd lŵch: ac addaw iddo ddedwyddwch os ufyddhae iw orchymynion ef. Gallasai Duw wrth ei Fawrhydi a'i arglwyddiaeth, orchymyn y peth a fynnasai i ddŷn, heb ymrwymo mewn addewid iddo, gan ei fod mor rydd oddiwrth ei greaduriaid, ac yw 'r crochenydd oddiwrth y telpyn pridd. Etto rhyngodd bodd iddo ef o'i râd gariad, addaw gwobr haelionus ir ufydd-dod oedd ddyledus iddo ei chael, ped fuasai heb wneuthur rhwymedigaeth ar ei ran ei hun.
2. Y mae ini achos i foliannu daioni Duw ymhellach, am nad yw in ein dal ni in oestadol at y cyfammod o weithredoedd. Canys felly fe fyddai ein cyffwr ni in echryslon, heb debygoliaeth o gael bywyd ac jechydwriaeth. Maintioli y drugaredd hon a ymddengys in well wrth ystyried fell y mae 'r Cyfammod grâs a wnaeth Duw â'r ffyddloniaid ar ol y cwymp, in rhagori mewn godidowgrwydd any cyfamod gweithredoedd a wnaeth Duw gyntaf ag Adda ac Efa.
2. Y mae ini achos i foliannu daioni Duw ymhellach, am nad yw yn ein dal ni yn oestadol at y cyfammod o weithredoedd. Canys felly fe fyddai ein cyffwr ni yn echryslon, heb debygoliaeth o gael bywyd ac iechydwriaeth. Maintioli y drugaredd hon a ymddengys yn well wrth ystyried fel y mae 'r Cyfammod grâs a wnaeth Duw â'r ffyddloniaid ar ol y cwymp, yn rhagori mewn godidowgrwydd any cyfamod gweithredoedd a wnaeth Duw gyntaf ag Adda ac Efa.