B03487:257
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Er mwyn dy amddiffyn dy hun in erbyn profedigaethau Satan cymer y cyfarwyddyd a ganlyn.
Er mwyn dy amddiffyn dy hun yn erbyn profedigaethau Satan cymer y cyfarwyddyd a ganlyn.
1. Bid gwbl deimladwy o'th wendid dy hun i wrthsefyll ei brofedigaethau ef. Y mae 'r goreu o honom in weniaid, a rhyfyg o'n nerth yw 'n gwendid mwyaf, a ragflaena godwm: megis y gwelir wrth Pedr, yr hwn pan oedd ef fwyaf hyderus o'i nerth ei hun, ac in dywedyd, er i bawb adel Christ nas gadawai efe mono ef, ydoedd y pride hynny in nesaf at gwymp.
1. Bydd gwbl deimladwy o'th wendid dy hun i wrthsefyll ei brofedigaethau ef. Y mae 'r goreu o honom yn weniaid, a rhyfyg o'n nerth yw 'n gwendid mwyaf, a ragflaena godwm: megis y gwelir wrth Pedr, yr hwn pan oedd ef fwyaf hyderus o'i nerth ei hun, ac yn dywedyd, er i bawb adel Christ nas gadawai efe mono ef, ydoedd y pryd hynny yn nesaf at gwymp.
2. Ymnerthwch in yr Arglwydd, ac ynghadernid ei allu ef. Y cyfarwyddyd hwn in y geiriau hyn i'n cadw oddiwrth ymgyrch Satan a roddir ini gan yr Apostol. Ephes. 6.10.
2. Ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac ynghadernid ei allu ef. Y cyfarwyddyd hwn yn y geiriau hyn i'n cadw oddiwrth ymgyrch Satan a roddir ini gan yr Apostol. Ephes. 6.10.