B03487:289
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cymmwys. Oh na chymmerem ni rybudd oddiwrth esampl Adda. A bod i rieni wneuthur eu goreu ar i râs ddyfod iw plant drwy eu cyngorion a'u bucheddau hwynt, fell y daeth pechod a marwolaeth oddiwrth y rhai cyntaf. Disgwil rhieni i blant fod in ufydd iddynt, in awr nid oes fodd gwell iw gwneuthur hwy felly, na thrwy eu meithrin a'u magu hwy mewn gwir dduwioldeb. Lle mae hyn in ddeffygiol, nid rhyfedd i blant ddyfod i fod in ofid iw rhieni. A gwybydded rhieni os bid iw plant fyw a marw ⟨p. 68⟩in eu pechodau drwy eu esceulusdra hwy, y gofynnir eu gwaed hwy ar eu dwylo hwynt. Ac er dwyn plant i fynu mewn duwioldeb, ystyried rhieni y cyfarwyddyd a galyn.
Cymmwys. Oh na chymmerem ni rybudd oddiwrth esampl Adda. A bod i rieni wneuthur eu goreu ar i râs ddyfod iw plant drwy eu cyngorion a'u bucheddau hwynt, fel y daeth pechod a marwolaeth oddiwrth y rhai cyntaf. Disgwil rhieni i blant fod yn ufydd iddynt, yn awr nid oes fodd gwell iw gwneuthur hwy felly, na thrwy eu meithrin a'u magu hwy mewn gwir dduwioldeb. Lle mae hyn yn ddeffygiol, nid rhyfedd i blant ddyfod i fod yn ofid iw rhieni. A gwybydded rhieni os bydd iw plant fyw a marw ⟨p. 68⟩yn eu pechodau drwy eu esceulusdra hwy, y gofynnir eu gwaed hwy ar eu dwylo hwynt. Ac er dwyn plant i fynu mewn duwioldeb, ystyried rhieni y cyfarwyddyd a galyn.
1. Cyn gynted ac y medro plant ddarllen, perwch iddynt ddarllen yr yscrythur lân. Yr hon sydd ynddi fwy o rinwedd i weithio duwioldeb na holl scrifennadau dynol. Drwy fendith y Goruchaf gall gwaith grâs ddechreu mewn plant wrth ddarllen yr scrythyrau. Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith in troy 'r enaid. Psal. 19.7.
1. Cyn gynted ac y medro plant ddarllen, perwch iddynt ddarllen yr yscrythur lân. Yr hon sydd ynddi fwy o rinwedd i weithio duwioldeb na holl scrifennadau dynol. Drwy fendith y Goruchaf gall gwaith grâs ddechreu mewn plant wrth ddarllen yr scrythyrau. Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith yn troi 'r enaid.