B03487:30
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y rhan arall o lyfrau 'r Hên Destament a elwir y prophwydi, o achos i brophwydi fod in scrfennyddion iddynt oll.
Y rhan arall o lyfrau 'r Hên Destament a elwir y prophwydi, o achos i brophwydi fod yn scrfennyddion iddynt oll.
Y Testament Newydd a amgyffred yr holl scrythyrau Sanctaidd hynny a welodd Duw un gymmwys eu gosod in Gofion iw eglwys ar ol Dyfodiad ac Escynniad Christ, y rhai ydynt 27 mewn rhifedi, Gellir rhannu y rhain in historiawl, ac in athrawiaethawl. Yr historiau sydd ynghylch Christ a'i Eglwys in y prif amser. Yr ystoriau ynghylch Christ a yscrifenwyd gan bedwar Efangylwyr, a elwir felly, am fod defnydd eu scrifennadau in newyddion da, self, Cnawdoliaeth, genedigaeth, buchedd, athrawiaeth, marwolaeth, ac Escynniad Jesus Grist Jachawdwr din. Enwau 'r pedwar Efangylwyr yw Matthew, Marc, Luc, ac Joan.
Y Testament Newydd a amgyffred yr holl scrythyrau Sanctaidd hynny a welodd Duw vn gymmwys eu gosod yn Gofion iw eglwys ar ol Dyfodiad ac Escynniad Christ, y rhai ydynt 27 mewn rhifedi, Gellir rhannu y rhain yn historiawl, ac yn athrawiaethawl. Yr historiau sydd ynghylch Christ a'i Eglwys yn y prif amser. Yr ystoriau ynghylch Christ a yscrifenwyd gan bedwar Efangylwyr, a elwir felly, am fod defnydd eu scrifennadau yn newyddion da, sef, Cnawdoliaeth, genedigaeth, buchedd, athrawiaeth, marwolaeth, ac Escynniad Jesu Grist Iachawdwr dyn. Enwau 'r pedwar Efangylwyr yw Matthew, Marc, Luc, ac Joan.
Histori yr brif Eglwys a scrifennwyd gan St. Luc, un o'r pedwar efangylwyr, ac a elwir, Actau 'r Apostolion. Histori agos o ddeuga•n o flynnyddoedd yw, self o escynniad Christ hid garcharu Pawl in Rhufain.
Histori yr brif Eglwys a scrifennwyd gan St. Luc, un o'r pedwar efangylwyr, ac a elwir, Actau 'r Apostolion. Histori agos o ddeugan o flynnyddoedd yw, sef o escynniad Christ hyd garcharu Pawl yn Rhufain.