B03487:304
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gof. 15. Beth yw pechod?
Atteb. Pechod yw troseddiad cyfraith Duw.
Egluth. Fell hyn y dywed yr Apostol. 1 Joan. 3.4. gan alw pechod in anghyfraith. Eglurhâd o ewyllys Duw yw 'r gyfraith, in dangos i ddŷn beth a fynnai, a pheth ni fynnai efe i ddŷn ei wneuthur. Am hynny torri 'r gyfraith yw digio Duw, a gwneuthur in erbyn ei ddatcuddiedic ewyllys ef. Yspysa cyfraith Dduw ini beth a ddylaem ni ei wneuthur, a pheth a ddylaem ni fod. Gorchymmyn ini ddilyn sancteiddrwydd, Heb. 12.14, a bod in sanctaidd, 1 Pet. 1.16. Rhaid i'n nature ni, gystal a'n buchedd ni, fod in gydffurfiol ag ewyllys Duw.
Egluth. Fel hyn y dywed yr Apostol. 1 Joan. 3.4. gan alw pechod yn anghyfraith. Eglurhâd o ewyllys Duw yw 'r gyfraith, yn dangos i ddŷn beth a fynnai, a pheth ni fynnai efe i ddŷn ei wneuthur. Am hynny torri 'r gyfraith yw digio Duw, a gwneuthur yn erbyn ei ddatcuddiedic ewyllys ef. Yspysa cyfraith Dduw ini beth a ddylaem ni ei wneuthur, a pheth a ddylaem ni fod. Gorchymmyn ini ddilyn sancteiddrwydd, Heb. 12.14, a bod yn sanctaidd, 1 Pet. 1.16. Rhaid i'n natur ni, gystal a'n buchedd ni, fod yn gydffurfiol ag ewyllys Duw.