B03487:375
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
5. Ac in haeddu poenau tragywyddol in uffern.
5. Ac yn haeddu poenau tragywyddol yn uffern.
In gyntaf, y mae pawb in eu pechodau dan ddigofaint Duw: in agored iw sorriant ef, yr hyn sydd gyflwr mor ofnadwy ac na ddichon deal creadur in y bŷd amgyffred maintioli ei ofid. Psal. 90.11. Pwy a edwyn nerth dy sorriant? Megis pe y dywedasai, pwy a ddichon feddwl neu adrodd mor ddychrynadwy yw digofaint Duw i'r rhai y cyffrowyd ef in gyfiawn in eu herbyn. Dihar. 20.2. Medd y gwr doeth, fod digofaint ⟨p. 87⟩brenin megis rhuad llew. Beth ynteu yw digofaint Duw, brenin y brenhinoedd? Dig yr hwn sydd dân yssol, o flaen yr hwn nis gall creadur sefyll.
Yn gyntaf, y mae pawb yn eu pechodau dan ddigofaint Duw: yn agored iw sorriant ef, yr hyn sydd gyflwr mor ofnadwy ac na ddichon deall creadur yn y bŷd amgyffred maintioli ei ofid. Psal. 90.11. Pwy a edwyn nerth dy sorriant? Megis pe y dywedasai, pwy a ddichon feddwl neu adrodd mor ddychrynadwy yw digofaint Duw i'r rhai y cyffrowyd ef yn gyfiawn yn eu herbyn. Dihar. 20.2. Medd y gwr doeth, fod digofaint ⟨p. 87⟩brenin megis rhuad llew. Beth ynteu yw digofaint Duw, brenin y brenhinoedd? Dig yr hwn sydd dân yssol, o flaen yr hwn nis gall creadur sefyll.
Rhyfeddol ynteu yw ynfydrwydd a gwallgofi y dynion hynny y rhai a ryfygant wneuthur pechodau adnabyddus, drwy y rhai 'r enynnant dân digofaint Duw iw herbyn, a thaflant eu hunain iw ganol.