B03487:41
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
5. Wrth y destiolaeth a roddir: yr hon fydd oddiallan, ac oddifewn. Oddiallan, y rhyfeddodau a wnaeth y scrifen-wyr, gyda boddlawn gydsynniad ur Eglwys ym mhob oes a chyfaddefiad lawyer o elynion. Oddifewn, drwy Weithrediad yspryd Duw in y meddwl, yr hon yw 'r destiolaeth siccraf ac disiommediccaf o'r lleill i gyd.
5. Wrth y destiolaeth a roddir: yr hon fydd oddiallan, ac oddifewn. Oddiallan, y rhyfeddodau a wnaeth y scrifen-wyr, gyda boddlawn gydsynniad vr Eglwys ym mhob oes a chyfaddefiad llawer o elynion. Oddifewn, drwy Weithrediad yspryd Duw yn y meddwl, yr hon yw 'r destiolaeth siccraf ac disiommediccaf o'r lleill i gyd.
Cymmhwys. 1. Gall hyn ddwyn ar •deall ⟨p. 6⟩ini, cyfiawned yw 'r achos ini i ffieiddio cre•ydd y Papistiad, y rhai a ommeddant i'r bobl ddarllen yr yscrythyrau, gan eu cadw oddiwrthynt.
In 1. Sam. 13.19. ni ddarllenwn fod y Phylistiaid in caethiwo Israel, ac er mwyn eu dal hwy tanynt, ni oddefent un gof in y tir, rhag ir Hebreaid wneuthur iddynt eu hunain gleddyfau a gwaiw-fin i ymladd in eu herbyn hwynt. Y cyfryw ddichell a arferodd y Papistiaid in hîr, ac a arferant in awr hefyd, i gadw pobl mewn dallineb ac anwybodaeth, rhag canfod o honynt y beiau Ffiaidd a'r sydd in eu crefydd hwynt, canys ni chynwysant i'r bobl gael y Bibl in eu jaith mamawl, eithr mynnant ei gloi ef rhagddynt hwy mewn tafod dieithr, rhag iddynt oddiyno dynnu rhesymmau i argoeddi eu opiniwnau a'u harferion ynfyd hwynt.